Portread o gyfres gomedi The Vale
Mae miloedd yn gwylio rhaglen gomedi The Vale – llwyddiant sy’n cael ei ddathlu gan bobol y Cymoedd.
Hyd yma mae dwy gyfres o’r cartŵn wedi’u gosod ar YouTube, a chyda nifer eu dilynwyr ar-lein yn cynyddu o hyd, mae trydedd cyfres ar y gweill.
Mae’r gyfres wedi ei lleoli yng Nglynebwy, ac yn dilyn troeon trwstan Tony, llipryn yn ei arddegau sydd ag obsesiwn â Japan; a’i lystad, Beaton, dyn blin sydd yn hoffi yfed.
Adam Llewellyn, 31, yw’r dyn a greodd y gyfres, ac mae’n dweud ei fod wedi selio’r ddau gymeriad ar ddisgybl a thad y bu’n rhaid iddo ddelio â nhw tra oedd yn athro Dylunio yng Ngholeg Gwent.
“Roedd y bachan yma yn fy nosbarth, ac oedd e’n fy atgoffa i ohonof i fy hun tamaid bach,” meddai. “Mae sawl agwedd ar gymeriad Tony yn seiliedig arna’ i.
“Roedd [y bachan] yn ffan o anime [cartwnau Japaneaidd] ac roedd ganddo obsesiwn â [gêm cyfrifiadur Japaneaidd] Final Fantasy.
“Daeth y rhieni i’r coleg rhyw ddiwrnod, ac roedd ei dad e’ gyda fe, ac roedd y tad yn ddyn crac.
“Roedd e’n amlwg bod e’ moyn i’w fab fod yn ffan rygbi. Ond wnaeth e’ lando lan gyda ffan Final Fantasy tew a bychan. Ro’n i’n gweld hynna’n eitha’ doniol.
“Yn amlwg, ro’n i’n teimlo trueni dros y boi. Ond i fi, roedd rhywbeth doniol iawn am hynna.”
Dechreuodd ddynwared y tad yn barhaus, ac yn y pen draw cafodd ei ysbrydoli i greu pennod gyntaf y gyfres gyntaf, gan roi corff animeiddiedig i’r llais doniol.
Ar ôl gosod y bennod gyntaf ar YouTube ym mis Chwefror y llynedd, trodd y cyfan yn gaseg eira, a bellach mae 12 pennod wedi’u cyhoeddi gyda chast mawr o gymeriadau.
Mae Adam Llewellyn yn lleisio nifer helaeth ohonyn nhw, ac ef hefyd yw’r animeiddiwr, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, golygydd, ac un o aelodau’r tîm sy’n sgwennu’r sgript.
O ran y dylanwadau ar ei waith, mae’n tynnu sylw at gartwnau The Simpsons, South Park, a King of the Hill.
Ond ag yntau’n ŵr o Lynebwy, mae’n dweud mai’r dref honno yw’r brif ysbrydoliaeth.
Mae pobol yr ardal wedi ymateb yn bositif, meddai, ac mae’n aml yn clywed dyfyniadau o’r sioe gan drigolion.
“Mae pobol yn fy adnabod i’n lot amlach yng Nglynebwy bellach,” meddai. “Pan dw i’n cerdded o gwmpas mae pobol yn gweiddi ‘fuck aye’ a ‘can you imagine that’ arna i!
“Mae pobol yng Nglynebwy yn dwlu arno fe. A dyna’r peth gorau yn y byd. Wnaeth rhywun ddod lan ata’ i un tro a dweud: ‘Dyma South Park – ond i ni’. Mae hynna’n wych.
“Mae’n eitha’ cŵl. Dw i ddim yn ’nabod y bobol yma. Mae hynna’n eitha’ da. Ie, dw i eisiau rhoi Glynebwy ar y map. Dyna’r brif nod. Dw i’n dwlu ar Lynebwy.”
Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel athro mewn canolfan i blant sydd yn camymddwyn, ac er mawr syndod iddo mae ei ddisgyblion hefyd wedi clywed am y rhaglen.
“Dros y misoedd diwetha’ mae plant wedi dechrau ffeindio’r rhaglen ac maen nhw’n anfon [dyfyniadau] i fy nghyfrif gwaith!” meddai. “Dw i jest yn gwadu mai fi sy’n ei greu e’!”
Mae Adam Llewellyn – ochr yn ochr â James Prygodzicz, Steve Ballinger, a Josh Hooper – wedi treulio’r misoedd diwetha’ yn sgwennu’r sgript ar gyfer y drydedd gyfres.
Mae’n dweud bod y broses “fel swydd llawn amser” a’i fod eisoes wedi animeiddio hanner y gyfres.
Does dim dyddiad ar gyfer lansio’r gyfres newydd eto, ac nid yw’n awyddus i ddweud gormod am y penodau, ond mae’n datgelu mai dyma fydd y gyfres olaf.
James Prygodzicz yw llais Jock, sef un o ffrindiau agosaf Beaton, ac mae’n dweud bod y proses o greu The Vale wedi bod yn ddigon anffurfiol i gychwyn. Ond mae hynny wedi newid yn llwyr.
“Mae strwythur i’r cyfan yn bendant,” meddai’r gŵr 39 oed o Aberdâr. “R’yn ni’n cynnal cyfarfodydd sgwennu. R’yn ni’n cymryd yr holl beth o ddifri, ac mae hynny’n fwy gwir ers y gyfres gyntaf.
“Ar y dechrau, roedd Adam yn sgwennu stwff ar gyfer Jock ac wedyn roedden ni’n ad libio,” eglura.
“Bydden ni’n siarad ac yn trïo dod lan â stwff doniol, a bydden ni’n recordio hynny… O’r diffyg strwythur hwnnw, wnaethon ni ddarganfod trywydd i bethau.”
Steve Ballinger, 45, yw llais Bleddyn ac mae’n jocian bod y broses o recordio llais garw’r cymeriad at y drydedd gyfres yn debygol o fod yn anodd.
Bòs blin y maes adeiladu yw Bleddyn, ac mae’n rhegi ar ei staff o’i gadair olwyn. Ym mhob un o’i olygfeydd mae’n bloeddio yn uchel gyda’i lais garw.
“Mae siarad yn anodd iddo fe,” meddai Steve Ballinger. “Mae’n anodd iawn iddo ebychu brawddegau.
“Wna i fod yn onest, mae’n gymeriad da, mae pobol yn ei fwynhau, ond mae’n anodd iawn ar y llwnc. Mae’n anodd iawn!
“Bydd rhaid i fi ddal yn ôl yn y drydedd gyfres neu fydda’ i byth yn cyrraedd y diwedd!”