Mae Cymro Cymraeg sydd wedi’i benodi i Fwrdd Criced Cymru yn benderfynol o sicrhau bod y corff llywodraethu’n gwneud y defnydd gorau posib o’r Gymraeg yn ei waith o ddydd i ddydd.

Cafodd penodiad Gareth Lanagan yn Gyfarwyddwr Llawr Gwlad ei gyhoeddi mewn datganiad uniaith Saesneg ar wefan Criced Cymru. Ac yntau wedi chwarae yn y Barri lle cafodd ei fagu’n Gymro Cymraeg, ac yn Llandysul yn y gorllewin a Dolgellau yn y gogledd, mae’n wybodus a phrofiadol ym maes criced ar lawr gwlad.