Mae capten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, yn mynnu nad oes anghytuno o fewn y garfan genedlaethol.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod yr anghytuno yn rhannol gyfrifol am ymadawiad Byron Hayward.

Ar ôl ildio 15 o geisiau yn y pum gêm ddiwethaf gadawodd yr hyfforddwr amddiffyn ei rôl gyda thîm Cymru y penwythnos diwethaf.

Golyga hyn na fydd gan Gymru hyfforddwr amddiffyn arbenigol ar gyfer gemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

“Mae anghytuno yn rhywbeth sy’n gallu bod yn eithaf pryfoclyd i’r rhai sydd y tu allan i’r garfan,” meddai Alun Wyn Jones mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Iau.

“Mae hyn dal yn waith i ni.

“Rydym yn canolbwyntio, ac yn gwbl glir o’r hyn sydd angen i ni ei wneud ac ein bwriad yw cadw at hynny.”

Ar drothwy Cwpan Cenhedloedd yr Hydref bydd tîm Cymru dan bwysau ychwanegol ar ôl colli pum gêm yn olynol.

Cyfrifoldeb

Ond eglurodd y capten, a fydd yn ennill ei gap rhif 150 yn erbyn y Gwyddelod, fod yn rhaid i’r chwaraewyr gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y sefyllfa.

“Mae’r cyfrifoldeb bob amser ar y chwaraewyr,” meddai.

“Mae hynny wedi bod yn wir o erioed, a dw i ddim yn credu bod hynny am newid.

“Rydym yn ymwybodol o’r hyn mae pobol y tu hwnt i’r garfan yn meddwl ohonom ar hyn o bryd ond ni fyddwn yn gwyro oddi wrth ein nod o gael perfformiad da.

“Rydym yn dal yn ymwybodol iawn bod angen i’n perfformiad wella a dyna yw’r ffocws.

“Yn y pen draw mae’r cyfrifoldeb wedi ei rannu – fel chwaraewr mae gennych yr offer i fynd allan yno a gwneud eich gwaith, ac ein bwriad yw gwneud hynny hyd orau ein gallu.

“Fel grŵp fyddwn ni ddim yn cuddio oddi wrth y pwysau.

“Dwi wedi bod yn y sefyllfa yma ambell waith o’r blaen, ac mae’r gwahaniaethau yn gallu bod yn fach.”

Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi gwneud un newid i’r tîm a gollodd yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets.