Mae Prif Hyfforddwr Cymru Wayne Pivac yn credu mai’r gêm yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yw’r hyn sydd ei angen ar Gymru ar ôl diwedd siomedig i’w hymgyrch Chwe Gwlad.

Bydd Cymru’n dechrau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn Stadiwm Aviva ddydd Gwener (Tachwedd 13), llai na phythefnos ar ôl colli gartref yn erbyn yr Alban am y tro cyntaf ers 18 mlynedd.

Ac mae Cymru wedi colli pum gêm yn olynol, y rhediad gwaethaf ers 2016, tra bod yr hyfforddwr amddiffyn Byron Hayward wedi cael ei ddiswyddo.

Dim ond dwy gêm mae Cymru wedi ennill ers i Wayne Pivac olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru.

Roedd y rheini yn erbyn y Barbariaid a’r Eidal.

“Mae’n rhaid i ni fod eisiau perfformio ac mae’n debyg o fod yn ornest wych,” meddai Wayne Pivac.

“Rydym wastad yn siarad fel grŵp hyfforddi am sut y gallwn wella ac i ba gyfeiriad mae’r tîm yn mynd.

“Rydym yn hyn gyda’n gilydd, ac yn gweithio’n galed i gael y canlyniadau rydym eu heisiau.”

Justin Tipuric yn dychwelyd

Er gwaethaf perfformiad enbyd yn erbyn yr Alban, dim ond un newid y mae Wayne Pivac wedi’i wneud, gyda Justin Tipuric yn dychwelyd ar ôl gwella o tonsilitis.

Gwyliodd ef gêm yr Alban o’i wely, a dywedodd: “Roedd llawer o rwystredigaeth ar ôl y gêm honno oherwydd mae pawb yn gwybod ein bod yn gallu chwarae’n well na hynny.

“Does neb yn hoffi colli gêm o rygbi. Nid ydych yno i chwarae’r gêm er mwyn ei cholli, ac rydym yn benderfynol o ddechrau ennill gemau rygbi eto.”