Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi disgrifio’r golled yn erbyn yr Alban heddiw fel y “golled waethaf” ers iddo ddechrau hyfforddi Cymru.
Sicrhaodd yr Albanwyr eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn erbyn Cymru ers 2002 ym Mharc y Scarlets brynhawn dydd Sadwrn, Hydref 31.
Golygai hyn fod Cymru yn diwedd pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y pumed safle – eu safle gwaethaf yn y gystadleuaeth ers 2017.
Dyma hefyd y tro cyntaf i Gymru golli 5 gêm yn olynol ers 2016.
“Rwy’n siomedig iawn yn y ffordd y gwnaethom chwarae yn enwedig yn ardal y gwrthdaro”, meddai Wayne Pivac mewn cynhadledd i’r wasg yn dilyn y gêm.
“Mae’n rhan holl bwysig o’r gêm ac rydym eto i’w gael yn iawn.
“Rhaid i ni wella os ydym ni am chwarae gyda chyflymder.
“Mae’n debyg mai dyma’r golled waethaf gan na wnaethom gymryd unrhyw gyfleoedd.”
Ers cael ei benodi fel Prif Hyfforddwr y llynedd dim ond dwy gêm mae Cymru wedi ennill dan arweiniad Wayne Pivac – gêm gyfeillgar yn erbyn y Barbariaid a gêm gyntaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn erbyn yr Eidal.
Edrych tua Chwpan Cenhedloedd yr Hydref
Ar drothwy Cwpan Cenhedloedd yr Hydref bydd pwysau ychwanegol ar Gymru nawr wrth iddyn nhw edrych am eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Chwefror.
“Mae rhaid i ni wella cyn Cwpan yr Hydref ac mae’n rhaid i ni ddechrau ennill a hynny er mwyn magu hyder”, ychwanegodd Wayne Pivac.
Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn Nulyn ymhen pythefnos yn y bencampwriaeth newydd.