Colli wnaeth Cymru yn erbyn yr Alban yng ngêm olaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mharc y Scarlets y pnawn yma.
Sicrhaodd yr Albanwyr eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn erbyn Cymru ers 2002.
Roedd hi’n ddechrau araf i Gymru wrth iddyn nhw ildio 3 pwynt yn y deng munud cyntaf.
Er i maswr yr Alban, Finn Russell, fethu ei ymgais gyntaf at y pyst rhoddodd yr Alban ar y blaen rai munudau’n ddiweddarach.
Hawliodd yr Alban y meddiant, a nhw oedd yn rheoli’r gêm am fwyafrif yr hanner wrth i Gymru ildio naw o giciau cosb.
Ond daeth Cymru yn ôl a manteisio ar gamgymeriad gan y bachwr Fraser Brown a daflodd y bêl dros y lein ac i ddwylo ei wrthwynebydd Ryan Elias.
Croesodd prop Cymru Rhys Carré y llinell am ei gais rhyngwladol cyntaf cyn i Dan Biggar ychwanegu dau bwynt.
Ciciodd Adam Hastings gic gosb ar ddiwedd yr ail hanner i ddod â’r Albanwyr yn ôl o fewn pwynt.
Hanner amser – Cymru 7–6 Yr Alban
Yn fuan ar ôl i’r ail hanner ddechrau, bu rhaid i Dan Biggar adael y cae a daeth Rhys Patchell ymlaen yn ei le.
Parhaodd y chwarae gyda’r Alban yn manteisio ar gamgymeriadau Cymru yn ardal y gwrthdaro unwaith eto.
Oherwydd y gwynt ym Mharc y Scarlets penderfynodd capten yr Alban, Stuart Hogg, fynd am y gornel yn hytrach na chymryd cic gosb o flaen y pyst i fynd ar y blaen.
Ar ôl adeiladu ar fomentwm, fe arweiniodd hyn at sgarmes symudol a chais i Stuart McInally.
Er i’r Alban adfer y fantais unwaith eto fe fethodd Adam Hastings y trosiad.
Gyda deg munud i fynd daeth y Cymry yn ôl o fewn pwynt wedi cic gosb lwyddiannus gan Leigh Halfpenny.
Daeth un ymgais olaf i’r Cymry wrth i Liam Williams gymryd lein gyflym yn ei hanner ei hunan, ond arweiniodd y chwarae cyflym at gamgymeriadau a chic gosb arall i’r Alban.
Ciciodd Stuart Hogg y tri phwynt ychwanegol gan sicrhau buddugoliaeth haeddiannol o 14 pwynt i 10 i’r Alban.
Ar drothwy Cwpan Cenhedloedd yr Hydref bydd pwysau ychwanegol ar Gymru nawr wrth iddyn nhw edrych am eu buddugoliaeth gyntaf ers curo’r Eidal fis Chwefror.
Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn Nulyn ymhen pythefnos yn y bencampwriaeth newydd.
Cymru 10 | Yr Alban 14 |
Ceisiau: Carré | Ceisiau: McInally |
Trosiadau: Biggar | Trosiadau: |
Ciciau Cosb: Halfpenny | Ciciau Cosb: Russell, Hastings, Hogg |
Tîm Cymru
Olwyr: Leigh Halfpenny, Liam Williams, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies
Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (C), Shane Lewis-Hughes*, James Davies, Taulupe Faletau,
Eilyddion: Sam Parry, Wyn Jones, Dillon Lewis, Cory Hill, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Rhys Patchell, Nick Tompkins
*Cap cyntaf
Tîm yr Alban
Olwyr: Stuart Hogg (C), Darcy Graham, Chris Harris, James Lang, Blair Kinghorn, Finn Russell, Ali Price
Blaenwyr: Rory Sutherland, Fraser Brown, Zander Fagerson, Scott Cummings, Jonny Gray, Jamie Ritchie, Hamish Watson, Blade Thomson
Eilyddion: Stuart McInally, Oli Kebble, Simon Berghan, Ben Toolis, Cornell du Preez, Scott Steele*, Adam Hastings, Duhan van der Merwe
*Cap cyntaf