Mae capten Cymru, Alun Wyn Jones, wedi cydnabod i Undeb Rygbi Cymru ofyn am ganiatâd arbennig gan Lywodraeth Cymru i adael i’w deulu fynychu’r gêm yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets heddiw, ond nad oedd hynny’n bosib.

Bydd y Cymro 35 oed yn torri’r record o ran chwarae’r nifer fwyaf o gemau prawf yn hanes y gêm, gan ennill cap rhif 149.

“I fod yn deg, fe holwyd y cwestiwn,” meddai Alun Wyn Jones mewn cynhadledd i’r wasg cyn y gêm.

“Gofynnwyd i’r Llywodraeth am ganiatâd oherwydd amgylchiadau eithriadol.

“Ond yn y darlun mawr, dydy un diwrnod yn ddim byd i feddwl ein bod ni yng nghanol clo arall, a bod rhannau helaeth o Gymru wedi bod dan glo lleol cyn hynny.

“Mae’r ffaith ein bod ni’n gallu chwarae – sydd yn fraint yn ei hunan – yn llawer pwysicach mewn gwirionedd.”

‘Teulu wedi cadw ei draed ar y ddaear’

Wrth drafod y garreg filltir hanesyddol yn ei yrfa, roedd Alun Wn Jones am ddiolch i’w deulu.

“Ni allaf ddweud digon am y gefnogaeth dw i wedi ei derbyn gan fy nheulu ar hyd y daith yma.

“Pan fydda i’n gorffen fy ngyrfa, mi fyddan nhw yna i mi a bydd y gêm yn symud ymlaen, dw i’n ymwybodol iawn o hynny.

“Dw i wedi bod yn ffodus iawn – fy Mam, fy chwaer, fy nhad pan oedd o gwmpas, ac wrth gwrs fy ngwraig a’r merched yn ddiweddarach – sydd sicr wedi cadw fy nhraed ar y ddaear.”

Dechreuodd gyrfa ryngwladol Alun Wyn Jones ym Mhatagonia pan enillodd ei gap cyntaf yn erbyn yr Ariannin yn 2006.

“Pe bai ond wedi bod yr un cap hwnnw, byddai’r gêm yna wedi bod yn un arbennig iawn i fi a fy nheulu,” meddai Alun Wyn Jones.

Bellach mae wedi gwisgo crys coch Cymru 139 gwaith a chrys y Llewod naw gwaith.

‘Ffodus iawn i allu chwarae o gwbl’

Wrth edrych ymlaen at y gêm heddiw, dywedodd Alun Wyn Jones ei bod hi’n fraint gallu chwarae, boed hynny tu ôl i ddrysau caeedig ym Mharc y Scarlets neu beidio.

Eglurodd fod y ffaith fod gêm merched Cymru yn erbyn yr Alban wedi ei gohirio yn adlewyrchu hynny.

“Rydym yn ffodus iawn i allu chwarae o gwbl, a gobeithio gall pawb ddychwelyd i’r cae yn fuan.

“Rydym ni gyd yn gwybod am y buddion o chwarae, gwylio a chymryd rhan mewn chwaraeon felly dydym ni sicr ddim yn cymryd hyn yn ganiataol.

“Fydd hi siwr yn dawelach na’r arfer ym Mharc y Scarlets, wrth gwrs fel chwaraewr y Gweilch byddai’n well gen i fod yn chwarae yn y Liberty. Ond na, mae’n fraint fawr i ni allu chwarae o gwbl.”

Cymru v Yr Alban yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 2.15