Colli 3-2 a wnaeth Caerdydd yn erbyn QPR y pnawn yma wrth i gôl gan Dominic Ball ar ddiwedd y gem chwalu eu record ddiguro oddi cartref y tymor yma.

Sgoriodd Joe Ralls ddwywaith i alluogi’r Adar Gleision ddringo’n ôl o fod 2-0 i lawr, gan ddod â’r sgôr yn gyfartal gyda phum munud i fynd.

Roedd goliau gan Ilias Chair a Todd Kane wedi roi QPR ddwy gôl ar y blaen cyn i gic o’r smotyn gan Joe Ralls roi Caerdydd yn ôl yn y gêm. Aeth ymlaen i sgorio eilwaith yn dilyn ail gic gosb.

Chwalwyd gobeithion Caerydd pan ergydiodd Dominic Ball y bêl i’r rhwyd mewn gôl wych o 25 llath i ffwrdd, gan sicrhau’r fuddugoliaeth gyntaf i QPR mewn wyth gêm.