Mae Casnewydd wedi llwyddo i gadw eu lle ar frig Cynghrair Dau ar ôl curo Harrogate, a oedd i lawr i 10 dyn, yn Rodney Parade.

Gyda dim ond dau funud i fynd, sgoriodd Brandon Cooper, sydd ar fenthyg gan Abertawe, gan sicrhau buddugoliaeth ddramatig o 2-1 i’r tîm cartref.

Roedd Padraig Amond wedi sgorio gôl gyntaf yr Alltudion hanner awr i mewn i’r gêm. Yn ystod yr hanner cyntaf, aeth yr ymwelwyr i lawr i 10 chwaraewr wrth i Josh Falkingham gael ail gerdyn melyn am ffugio wrth apelio am gic gosb. Ymatebodd Harrogate gyda gôl funud cyn hanner amser gan Will Smith.

Hon oedd y bumed fuddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair i Gasnewydd – y tro cyntaf yn eu hanes iddyn gyflawni camp o’r fath.