Fe wnaeth gôl gan y capten Andre Ayew helpu selio buddugoliaeth 2-0 i Abertawe yn erbyn Blackburn yn Stadiwm Liberty y pnawn yma.

Sgoriodd ychydig ar ôl awr i mewn i’r gêm, gan ychwanegu at beniad Ben Cabango a oedd wedi rhoi’r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Ar ôl y bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol, mae Abertawe bellach yn ail o frig cynghrair Pencampwriaeth Sky Bet, gan dorri mantais Reading i lawr i bedwar pwynt.