Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr wedi cadarnhau y bydd gemau’n parhau yng Nghymru a Lloegr er bod cyfnod clo newydd ar fin dechrau yn Lloegr.

Bydd y cyfyngiadau’n dod i rym ddydd Iau (Tachwedd 5) ac yn parhau tan Ragfyr 2.

Ond bydd yr awdurdodau pêl-droed yn parhau â’r un drefn a fu yn ystod y cyfnod clo ledled Prydain a’r cyfnod clo dros dro yng Nghymru, lle mae gemau wedi cael eu cynnal yn y ddwy wlad.

Yn ôl datganiad, bydd y mesurau a’r protocolau llym a gafodd eu cyflwyno pan gafodd gemau pêl-droed eu cyflwyno eto yn parhau, a’r cyngor o hyd yw y dylid cadw at y rheolau hyn er mwyn atal ymlediad y coronafeirws.

“Iechyd, diogelwch a lles chwaraewyr a staff y clybiau fu ein prif flaenoriaeth drwy gydol y pandemig, a bydd hyn yn parhau wrth i ni ddechrau ar y cyfnod clo newydd hwn a thu hwnt,” meddai’r awdurdodau mewn datganiad.

“Yn ogystal, rydym yn cydnabod ymdrechion cenedlaethol y Llywodraeth [yn San Steffan] wrth fynd i’r afael â’r ymlediad hwn a gobeithio, yn ystod y cyfnod nesaf hwn yn yr argyfwng, y gall ein gêm genedlaethol, a gafodd ei heffeithio’n negyddol gan COVID-19 fel cynifer o’n diwydiannau eraill, barhau i ddarparu rhyw fath o ddifyrrwch a rhoi synnwyr o normalrwydd i bobol yn ein cymunedau ledled y wlad yn ystod amserau heriol iawn.”