Mae Ben Cabango, amddiffynnwr canol Abertawe, yn llygadu rhagor o goliau i’w glwb ar ôl sgorio yn ystod y fuddugoliaeth o 2-0 dros Blackburn yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 31).

Daeth ei gôl oddi ar gic gornel Connor Roberts i roi’r Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn i Andre Ayew benio’r ail gôl oddi ar groesiad Yan Dhanda ar ôl awr.

Daw’r fuddugoliaeth wedi iddyn nhw guro Stoke yn gynharach yn yr wythnos.

Ac mae’n golygu bod y Cymro Cymraeg 20 oed yng nghanol amddiffyn Abertawe bellach wedi sgorio dwy gôl y tymor hwn, a’i fod e’n llygadu rhagor.

“Allwch chi ddim gofyn am fwy na hynny – triphwynt, llechen lân a gôl,” meddai.

“Dyna fy ail gôl y tymor hwn a gobeithio y galla i gael rhagor.

“Mae’n rhywbeth dw i eisiau gwella arno o’r tymor diwethaf – dim ond sgorio un gôl, felly mae’n beth positif iawn i fi.

“Mae’r peli i gyd mae Connor wedi bod yn eu rhoi i mewn wedi bod yn dda.

“Yn amlwg, rydych chi eisiau ymosod arnyn nhw lle bynnag allwch chi.

“P’un ai fe, Matt Grimes neu Yan [sy’n eu rhoi nhw i mewn], maen nhw bob amser yn beli da.

“Rhaid i ni fanteisio arnyn nhw.”

Brentford a Norwich nesaf

Mae’r Elyrch wedi codi i’r ail safle awtomatig yn y Bencampwriaeth yn dilyn y fuddugoliaeth, ond fe fydd ganddyn nhw ddwy gêm anodd oddi cartref nesaf – yn erbyn Brentford sy’n drydydd a Norwich sy’n bedwerydd.

Ond fe fydd yn gyfle i’r garfan brofi eu hunain, yn ôl Ben Cabango.

“Rydyn ni ar rediad da nawr, a dw i jyst eisiau parhau i wthio ymlaen a gwella,” meddai.

“Doedd hon ddim y gêm orau, ond rydyn ni wedi crafu’r llechen lân a chael y triphwynt.

“Rydyn ni eisiau adeiladu ar hynny yn ein gêm nesaf a gobeithio cael y triphwynt eto.

“Mae gyda ni ddwy gêm anodd i ddod yn Brentford a Norwich, felly rhaid i ni barhau i symud ymlaen a gwella.”