Mae Alun Wyn Jones yn dweud bod rhaid i dîm rygbi Cymru wella ar ôl iddyn nhw ddioddef eu hymgyrch waethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers 2007.

Maen nhw wedi gorffen yn bumed yn y tabl ar ôl eu canlyniadau rhyngwladol gwaethaf ers pedair blynedd, gan orffen y gystadleuaeth ddoe gyda cholled o 14-10 yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets wrth i’r capten dorri record capiau’r byd yng ngêm rhif 149 ei yrfa ryngwladol.

Mae’r canlyniad yn golygu eu bod nhw bellach wedi colli pum gêm o’r bron o dan y prif hyfforddwr newydd, ar ôl bod yn bencampwyr y Chwe Gwlad yn nhymor olaf Warren Gatland wrth y llyw.

Dim ond ddwywaith maen nhw wedi ennill o dan Wayne Pivac – yn erbyn y Barbariaid a’r Eidal, eu hunig fuddugoliaeth yn y Chwe Gwlad.

“Rhaid i bethau wella, on’d oes, yn y lle cyntaf,” meddai capten Cymru.

“Rydyn ni’n eithaf agored am hynny, felly hefyd Wayne.

“Rydyn ni’n mynd i mewn i Gwpan y Cenhedloedd gan ddechrau’n ffres.

“Dw i’n eitha’ sicr y bydd yna newidiadau ac y bydd Wayne yn parhau i roi cyfleoedd i bobol, felly mae’n ben agored yn yr ystyr hynny.

“Mae’n ddiddorol gweld sut awn ni a phwy fydd yn cael cyfleoedd ond yn y pen draw, mae angen i ni wella yn sicr.”