Mae adroddiadau bod Syr Bobby Charlton, un o gewri Clwb Pêl-droed Manchester United, wedi cael diagnosis o ddementia.

Fe ddaw ddeuddydd yn unig ar ôl marwolaeth Nobby Stiles, ei gyd-chwaraewr, o’r un cyflwr, a misoedd yn unig ar ôl i’w frawd Jack Charlton hefyd farw yn sgil y cyflwr.

Yn ôl y Telegraph, mae’r Fonesig Norma Charlton, gwraig Bobby, wedi rhoi ei sêl bendith i’r cyfryngau adrodd y newyddion am ei gŵr.

Roedd e’n aelod o un o’r timau mwyaf llwyddiannus yn hanes Manchester United, a hefyd yn aelod o dîm Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 1966.