Mae rhediad di-guro Munster yn y PRO14 yn parhau ar ôl iddyn nhw guro’r Dreigiau o 28-16 yn Rodney Parade.
Sgoriodd y cefnwr Matt Gallagher a’r asgellwr Calvin Nash gais yr un wrth i JJ Hanrahan gicio tair gôl gosb a dau drosiad.
Sgoriodd y maswr Sam Davies gais a dwy gic gosb, a chroesodd y clo Matthew Screech am gais yn ei hanner canfed gêm i’r Dreigiau.
Aeth y Dreigiau ar y blaen yn gynnar cyn i’r Gwyddelod ddangos eu goruchafiaeth am gyfnodau helaeth o’r gêm, gan sgorio 18 o’u pwyntiau yn y 25 munud cyntaf.
Ciciodd Hanrahan gic gosb i’w gwneud hi’n 3-3 cyn i Gallagher groesi oddi ar bàs gan y blaenasgellwr John Hodnett yn y gornel.
Ciciodd Hanrahan gic gosb arall a throsi cais Nash i roi Munster ymhell ar y blaen, er i’r Dreigiau greosi am gais hwyr cyn yr egwyl wrth i Sam Davies gasglu pêl rydd y tu ôl i’r llinell gais.
Ail hanner
Fe wnaeth y Dreigiau gau’r bwlch i saith pwynt pan giciodd Davies gic gôsb ar ôl i Gavin Coombes gamsefyll yn fwriadol.
Ond fe wnaeth y Gwyddelod ymestyn eu mantais unwaith eto gyda chic gosb gan Hanrahan.
Fe allai diflastod y Dreigiau fod wedi bod yn waeth pe na bai dau gais gan yr asgellwr Darren Sweetnam wedi cael eu hatal gan y dyfarnwr fideo.
Daeth trydydd cais Munster i gau pen y mwdwl ar y canlyniad, wrth i’r olwyr fanteisio ar feddiant o’r lein, a Gallagher yn croesi am ail gais.
Daeth cais cysur i Screech yn y funud olaf.