Bydd Ryan Giggs yn cyhoeddi ei garfan ddydd Mawrth ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Unol Daleithiau America a’r gemau yn erbyn Iwerddon a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Un cyfle olaf i’w chwaraewyr greu argraff y penwythnos hwn felly ond cyn edrych ar y cynghreiriau fesul un, mae’n rhaid rhoi sylw i un safle yn benodol.
Y gôl-geidwaid
Gyda’r ddau ddewis cyntaf wedi eu hanafau mae gan Gymru broblem (neu gyfle) rhwng y pyst. Mae Wayne Hennessey allan tan y flwyddyn newydd yn dilyn anaf yn erbyn Bwlgaria fis diwethaf ac mae Adam Davies hefyd yn wynebu cyfnod oddi ar y cae ar ôl brifo ei ben glin yng ngêm Stoke yn erbyn Abertawe ganol wythnos.
Er nad yw Danny Ward wedi chwarae’n rheolaidd ers dwy flynedd a hanner, gôl-geidwad Caerlŷr heb os fydd dewis cyntaf Giggs, ond pwy fydd y ddau arall yn y garfan? Dyma rai o’r opsiynau.
Tom King yw’r un sydd wedi bod yn y garfan ryngwladol yn fwyaf diweddar ond nid yw ef yn cael ei le yn nhîm Casnewydd ar hyn o bryd.
Dau opsiwn sydd yn chwarae’n rheolaidd ar lefel fymryn yn uwch yw Chris Maxwell i Blackpool yn yr Adran Gyntaf ac Owain Fôn Williams i Dunfermline ym Mhencampwriaeth yr Alban. Mae’r ddau wedi chwarae cannoedd o gemau clwb ac wedi bod yn rhan o garfanau rhyngwladol yn y gorffennol.
Os am hyd yn oed mwy o brofiad, gall Lewis Price fod yn opsiwn. Mae ganddo un cap ar ddeg ond daeth y cyntaf pan yr oedd Giggs ei hun yn dal i chwarae ac mae wyth mlynedd ers y diwethaf. Mae golwr Rotherham yn 36 erbyn hyn ac nid yw wedi chwarae i’w glwb y tymor hwn.
Ambell enw arall i’w taflu i’r pair yw Dave Richards, David Cornell ac Owen Evans sydd wedi bod yn cynhesu meinciau Crewe, Ipswich a Wigan yn yr Adran Gyntaf ers dechrau’r tymor.
Gan ystyried, ac eithrio anaf, y bydd Ward yn chwarae’r 90 munud yn y tair gêm, efallai y gwnaiff Giggs achub ar y cyfle i roi profiad i golwr ieuengach yng ngharfan y tîm cyntaf.
George Ratcliffe ac Adam Przybek a oedd yn y garfan dan 21 ddiwethaf. Mae Ratcliffe yn ôl gyda thîm dan 23 Caerdydd ar ôl creu argraff ar fenthyg gyda’r Barri’r tymor diwethaf ac nid yw Przybek wedi chwarae i Braintree yn chweched haen pyramid Lloegr ers ymuno ar fenthyg o Ipswich. Mae gan y tîm dan 21 gemau yn erbyn Moldova a’r Almaen felly efallai y bydd Rob Page yn gyndyn o’u rhyddhau.
Mae yna, wrth gwrs, un golwr gwell na’r uchod i gyd. Mae Karl Darlow yn gymwys ac fe chwaraeodd ei daid, Ken Leek, dros Gymru yn yr 1960au. Ond nid yw dewis cyntaf Newcastle wedi dangos dim diddordeb yn y gorffennol felly go brin y byddai’n ddewis poblogaidd pe bai Giggs yn ei berswadio i newid ei feddwl.
Uwch Gynghrair Lloegr
Parhau y mae dechrau siomedig Sheffield United i’r tymor wedi iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Man City ddydd Sadwrn. Dechreuodd Ethan Ampadu yng nghanol cae i’r Blades am yr ail benwythnos yn olynol gan bara ychydig dros awr.
Roedd Neco Williams ar y fainc i Lerpwl yn erbyn West Ham nos Sadwrn ond aros arni a wnaeth trwy gydol y gêm ac nid oedd Daniel James yng ngharfan Man U wrth iddynt hwy wynebu Arsenal brynhawn Sul.
Chwaraeodd Gareth Bale a Ben Davies yng Nghynghrair Europa nos Iau ond Davies, a oedd yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn, a oedd ar fai am unig gôl y gêm wrth i Spurs golli’n annisgwyl yn Antwerp. Ychydig o argraff a greodd Bale hefyd cyn cael ei eilyddio toc cyn yr awr. Fawr o syndod felly gweld y ddau yn dechrau’r gêm gynghrair yn erbyn Brighton nos Sul ar y fainc, gyda Joe Rodon.
Roedd gan Bale bwynt i’w brofi pan ddaeth i’r cae fel eilydd gydag ugain munud yn weddill â’r sgôr yn gyfartal, un gôl yr un. Tri munud yn unig a gymerodd hi i’r Cymro sgorio ac ennill y gêm i’w dîm gyda pheniad gwych o groesiad Sergio Reguilon.
Y Bencampwriaeth
Mae Abertawe yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth ar ôl trechu Blackburn ar y Liberty ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ben Cabango a Connor Roberts wrth i’r Elyrch gadw llechen lân yn y cefn ac fe sgoriodd Cabango yn y pen arall hefyd, yn penio’i dîm ar y blaen yn yr hanner cyntaf.
Colli fu hanes Caerdydd yn QPR er iddynt hwythau sgorio dwy hefyd. Chwaraeodd Kieffer Moore ei ran yn y ciciau o’r smotyn a arweiniodd at y goliau hynny. Dychwelyd yn waglaw a wnaeth yr Adar Gleision serch hynny yn dilyn ergyd hwyr Dominic Ball. Mae Harry Wilson yn parhau wedi ei anafu ond fe chwaraeodd Will Vaulkes yr hanner cyntaf ac fe ddaeth Mark Harris oddi ar y fainc am yr eiliadau olaf.
Dechreuodd Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer i Luton wrth iddynt golli’n drwm yn erbyn Brentford ond bu’n rhaid i Norrington-Davies gael ei eilyddio ar hanner amser oherwydd anaf. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Morrell.
Daeth newyddion gorau’r penwythnos i gefnogwyr Cymru yn Dean Court wrth i David Brooks ddod i’r cae am yr ugain munud olaf i Bournemouth yn erbyn Derby, ei gêm gyntaf ers sbel yn dilyn anaf. Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi gyda Chris Mepham yn chwarae gêm gyfan i Bournemouth a Tom Lawrence yn cwblhau 90 munud i Derby am y tro cyntaf ers dychwelyd o’i anaf yntau.
Gydag Adam Davies yn ymuno a Joe Allen yn ystafell y ffisio a James Chester a Sam Vokes yn cael eu gadael allan o’r tîm yn dilyn perfformiadau gwael yn erbyn Abertawe ganol wythnos, Morgan Fox a oedd yr unig Gymro yn nhîm Stoke wrth iddynt guro Rotherham o gôl i ddim. Chwaraeodd Shaun MacDonald awr i’r gwrthwynebwyr.
Cic gornel Joe Jacobson a arweiniodd at unig gôl y gêm wrth i Wycombe drechu Sheffield Wednesday yn y frwydr gwaelod y tabl. Chwaraeodd Andrew Hughes yn amddiffyn Preston mewn colled yn erbyn Birmingham a chafodd Tom Bradshaw ei dynnu oddi ar y cae ar hanner amser wrth i Millwall golli gartref yn erbyn Huddersfield.
Cynghreiriau is
Mae pedwar Cymro bellach yng ngharfan Charlton wedi i Adam Matthews ail ymuno â’r clwb Adran Gyntaf yr wythnos diwethaf. Gall hynny olygu y bydd ef a Chris Gunter yn cystadlu am y safle cefnwr de ond fe ddechreuodd y ddau yn erbyn Portsmouth ddydd Sadwrn, gyda Gunts yn chwarae yn y canol oherwydd anafiadau yn y garfan.
Dechreuodd Jonny Williams y gêm hefyd gan sgorio ei gôl gyntaf dros y clwb i’w rhoi ar y blaen yn yr hanner cyntaf. Aethant ymlaen i ennill o ddwy gôl i ddim ond aros ar y fainc a wnaeth Dylan Levitt, yn wahanol i Ellis Harrison, a ddaeth ymlaen am y 25 munud olaf i Pompey.
Chwaraeodd Chris Maxwell a Jordan Williams i Blackpool wrth iddynt ennill oddi cartref yn Burton ond nid oedd Ben Woodburn yn y garfan ar ôl profi’n bositif am Covid-19. Mae’r chwaraewr sydd ar fenthyg o Lerpwl wedi dechrau cyfnod o hunan-ynysu a go brin y bydd hwnnw ar ben cyn i garfan Cymru ymgynnull.
Dechreuodd Matthew Smith i Doncaster gan greu unig gôl y gêm i Ben Whiteman yn erbyn Lincoln a Brennan Johnson. Roedd 90 munud buddugoliaethus i’r tri Chymro yma yn yr Adran Gyntaf hefyd; Gwion Edwards i Ipswich yn erbyn Crewe, Ched Evans i Fleetwood yn erbyn Rhydychen a Dion Donohue i Swindon yn erbyn Hull.
Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi rhwng y gelynion, MK Dons a Wimbledon, yn Stadiwm MK. Chwareodd Regan Poole y gêm gyfan i’r tîm cartref ond nid oedd golwg o Adam Roscrow yng ngharfan yr ymwelwyr.
Colli fu hanes Wigan yn erbyn Northampton er i Tom James sgorio gyda pheniad da o gic gornel. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd ei gyd Gymro, Lee Evans.
Parhau y mae tymor gwych Casnewydd yn yr Ail Adran, maent ar y brig ar ôl curo Harrogate ddydd Sadwrn. Dechruodd Liam Shephard, Josh Sheehan a Brandon Cooper i’r Alltudion, gyda Cooper yn sgorio’r gôl hwyr holl bwysig a enillodd y gêm.
Yr Alban a thu hwnt
Roedd hi’n rownd gynderfynol Cwpan yr Alban y tymor diwethaf y penwythnos hwn, ond ni fydd yr un Cymro yn y rownd derfynol wedi i Hibs golli yn erbyn Hearts ddydd Sadwrn a Celtic guro Aberdeen ddydd Sul.
Gorfododd gôl Christian Doidge y gêm rhwng Hibs a Hearts i amser ychwanegol ond adferodd Hearts eu mantais yn yr hanner awr ychwanegol ac felly yr arhosodd hi er i Doidge ddod yn agos at sgorio ei ail gydag ymdrech acrobataidd.
Dechreuodd Ash Taylor, Ryan Hedges a Marley Watkins i Aberdeen ddydd Sul ond roeddynt ddwy gôl ar ei hôl hi o fewn chwarter cyntaf y gêm wrth i Celtic lwyr reoli mewn buddugoliaeth gyfforddus.
Mae Owain Fôn Williams ar frig Pencampwriaeth yr Alban gyda Dunfermline ar ôl iddynt guro Queen of the South o dair gôl i ddwy ddydd Sadwrn.
Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Rabbi Matondo yng ngêm gyfartal Schalke yn erbyn Stuttgart yn y Bundesliga nos Wener a daeth James Lawrence i’r cae am y munudau olaf wrth i St. Pauli gael pwynt yn Hamburger yn yr ail adran, 2. Bundesliga.
Chwaraeodd Robbie Burton ychydig dros awr o gêm gyfartal Dinamo Zagreeb yn erbyn Lokomotiva yn Uwch Gynghrair Croatia brynhawn Sul a daeth Aaron Ramsey ymlaen am yr hanner awr olaf wrth i Juventus ennill yn gyfforddus yn erbyn Spezia yn Serie A.
Gwilym Dwyfor