Sgoriodd Gareth Bale ei gôl gyntaf ers dychwelyd i Tottenham Hotspur i sicrhau buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Brighton ddydd Sul (Tachwedd 1).
Daeth oddi ar y fainc gan benio’r gôl fuddugol i gefn y rhwyd ar ôl 73 o funudau.
Roedd yr ymosodwr Harry Kane wedi sgorio cic o’r smotyn ar ôl 13 munud i roi Tottenham ar y blaen, cyn i Tariq Lamptey unioni’r sgôr ddeg munud i mewn i’r ail hanner.
Ond Gareth Bale gafodd y gair olaf i sicrhau bod Tottenham yn ennill gartref am y tro cyntaf y tymor hwn ac yn symud i fyny i ail yn y gynghrair, dau bwynt y tu ôl i Lerpwl ar y brig.
“Hapus i fod yma a chael chwarae pêl-droed eto”
Hon oedd gôl gyntaf Gareth Bale i Tottenham ers saith mlynedd, a’i gôl gyntaf ers mis Ionawr.
“Dydw i ddim wedi sgorio ers mis Ionawr ond dim ond tua phum gêm dw i wedi chwarae.” meddai.
“Mae’n swnio’n waeth mewn misoedd.
“Mae wedi bod yn rhyfeddol ers i mi ddod yn ôl, fe wnes i ymgartrefu’n syth ac mae’r tîm wedi bod yn anhygoel gyda fi.
“Dw i’n hapus iawn i fod yma a chael chwarae pêl-droed eto i glwb gwych.”