Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi pleidleisio o blaid gwerthu’r clwb i sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Wythnos yn ôl, dywedodd Reynolds a’i gyd-actor McElhenney wrth aelodau’r ymddiriedolaeth eu bod am droi Wrecsam yn “rym byd-eang”.

A heddiw (Tachwedd 16) mae’r ddau wedi derbyn cefnogaeth gref gan yr ymddiriedolaeth.

Cynhaliwyd dau Gyfarfod Cyffredinol Arbennig o grŵp cefnogwyr-berchnogion Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (WST), y cyntaf gyda chytundeb o 97.5% y dylid cynnal trafodaethau, a’r ail i “gymeradwyo’n ddiymdroi ac yn ddiamau” y cytundeb a gyflwynwyd.

Pleidleisiodd 98.4% o blaid gwerthu, gyda 1801 o gefnogwyr yn pleidleisio o blaid, 29 yn erbyn ac 11 yn ymatal.

“Diolch”

“Hoffai Bwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (WST) ddiolch i Mr Rob McElhenney a Mr Ryan Reynolds, a’u cynghorwyr Inner Circle Sports a Walker Morris, am eu dull proffesiynol ac ystyriol ac am yr amser y maen nhw eisoes wedi’i roi i’r broses,” meddai datganiad.

“Fel cefnogwyr Wrecsam, hoffem ddymuno pob lwc iddyn nhw… nhw sydd bellach yn gyfrifol am ein clwb pêl-droed ac edrychwn ymlaen at yr hyn a ddaw yn y dyfodol.

“Hoffem ddiolch hefyd i’n cynghorwyr, Sheridans, Mackenzie Jones, BDO a Rob Parry, am eu cymorth drwy gydol y broses.

“Yn olaf, i aelodau’r WST, hoffem ddiolch i chi am eich holl gefnogaeth ers i ni gymryd rheolaeth dros y clwb pêl-droed yn 2011.

“Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gefnogwyr maes o law am gynlluniau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn y dyfodol.”

“Pennod newydd”

Wrth siarad â golwg360 am y newyddion, dywedodd Marc Jones sy’n aelod o’r ymddiriedolaeth ac yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor Sir: “Mae’n newyddion cyffrous ac yn bennod newydd yn hanes y clwb.

“Ond mae’r cyfnod sy’n dod i ben wedi bod yn gyffrous hefyd gyda’r cefnogwyr wrth y llyw, ac yn hollbwysig o ran achub y clwb a galluogi i’r rhain brynu’r clwb a’n symud ni ymlaen.

“Mae gen i bob ffydd eu bod nhw’n mynd i neud y pethau iawn.”

“Angen bod yn amyneddgar”

Dywedodd Liam Randall, sydd hefyd yn aelod o’r ymddiriedolaeth, wrth golwg360 ei fod yn fodlon â’r newyddion ond bod “angen bod yn amyneddgar”.

“Roedd yn hwn yn gyfle na allai’r cefnogwyr ei wrthod… roedd yno dipyn o amheuon oherwydd yr hun rydym wedi ei ddioddef yn y gorffennol, ond dw i’n credu eu bod nhw [Ryan Reynolds a Rob McElhenney] yn gwneud hyn am y rhesymau iawn.

“Maen nhw i weld yn wirioneddol parchu hanes y clwb.

“Bydd yn rhaid i ni gael pobol sydd â dealltwriaeth o bêl-droed i mewn i’r clwb, cyflogi prif weithredwr, er enghraifft.

“Mae’n bosib y bydd angen i ni gael staff hyfforddi newydd hefyd.

“Ond yn sicr, bydd yn rhaid i bobol fod yn amyneddgar, a dyw gefnogwyr Wrecsam ddim yn adnabyddus am fod yn amyneddgar.

“Dw i ddim yn gweld ni yn yr Uwch Gynghrair mewn pum mlynedd,” meddai dan chwerthin.

“Ifor Williams” – Yr anrheg Nadolig perffaith?

Mae’r cwmni trelars Ifor Williams, sy’n noddi Clwb Pêl-droed Wrecsam, eisoes wedi profi’r buddion o gael dau o sêr Hollywood wrth y llyw.

“Ychydig funudau ar ôl i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam gyhoeddi ei bod wedi pleidleisio o blaid gwerthu’r clwb, cafodd fideo ei ryddhau o Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn canu clodydd y cwmni!

“Mae Ifor Williams yn enghraifft berffaith o’r cyfleoedd sydd nawr ar gael,” meddai Liam Randall.

“Mae hyn wir yn digwydd!” meddai Ryan Reynolds yn y fideo.

Ymateb y Prif Weinidog

Ymatebodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i’r newyddion drwy drydar i groesawu’r sêr i Gymru:

“Amser gwirioneddol gyffrous i drydydd clwb pêl-droed hynaf y byd – edrychaf ymlaen at wylio eich cynnydd.”

Ymateb y sêr

Ymddengys bod cysylltiad â Wrecsam bellach yn ddymunol iawn ymhlith sêr Hollywood…