Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi galw ar y Brifysgol i bwyllo ac ailystyried toriadau a allai “wanhau’r Gymraeg” o fewn Ysgol y Gymraeg a’r sefydliad ehangach.
Hyd yma, mae dros 120 o gyn-fyfyrwyr wedi llofnodi’r llythyr yn cyhuddo’r Brifysgol o fethu â gwarchod y sefydliad cenedlaethol ac o ddiffyg gweledigaeth.
Yn eu plith mae’r gantores Meinir Gwilym, Bardd Cenedlaethol Cymru a Chymrawd yn y Brifysgol Ifor ap Glyn, y cyn-newyddiadurwr Aled ap Dafydd a’r awdur Llwyd Owen.
Y Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes sydd wedi’i daro waethaf gan y toriadau a’r ailstrwythuro – ymhlith y diswyddiadau posib mae un darlithydd llawn amser ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes ac un ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol.
100 o swyddi sydd yn y fantol yn y brifysgol gyfan, nid 200, fel y cafodd ei grybwyll ym mis Medi.
Daeth y cyfnod ymgynghori rhwng Prifysgol Bangor a staff a myfyrwyr i ben ddoe (dydd Llun, Tachwedd 16).
Tanseilio enw da Ysgol y Gymraeg
Eglurodd y bardd Osian Owen, sy’n gyfrifol am lunio’r llythyr, fod peryg i’r cynigion “danseilio enw da’r ysgol”.
“Nod y llythyr yw bod yr argymhelliad yma ddim yn mynd yn ei flaen, a bod nifer y staff ddim yn newid yn yr ysgol,” meddai wrth golwg360.
“Mae angen i’r Brifysgol feddwl am gynllun hir dymor yn hytrach na bod yng nghlwm i’r cyfnod yma.
“Mae angen edrych ymlaen ac edrych sut gall y Gymraeg fel pwnc ac fel ffordd o fyw fod yn ased economaidd ar gyfer y dyfodol yn hytrach na bwrn economaidd.
“Rhaid creu strategaeth hyrwyddo a dysgu gan rywle fel Prifysgol Aberystwyth sydd yn llwyddo i hyrwyddo i hunan fel Prifysgol Gymraeg.”
Derbyniodd Osian Owen, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr yn y Brifysgol, gefnogaeth gan lu o gyn-fyfyrwyr eraill ar ôl rhannu neges ar ei gyfri Twitter:
Unrhyw gyn-fyfyrwyr @CymraegBangor awydd arwyddo llythyr agored i’r Brifysgol yn galw arnyn nhw i bwyllo efo’r argymhellion a fyddai’n gwanhau’r Gymraeg fel endid annibynnol o fewn y Brifysgol? Hit me up (p’nawn ma plîs!)
— Osian Owen (@osianowen1) November 16, 2020
‘Dyletswydd ar Brifysgol Bangor i warchod a hyrwyddo’
Mae’r llythyr yn nodi fod gan Brifysgol Bangor ddyletswydd i warchod Ysgol y Gymraeg ac i wneud mwy i hyrwyddo bwrlwm bywyd Cymraeg ehangach yn y Brifysgol.
“Fel y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, mae Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn un o’n sefydliadau cenedlaethol, ac mae gan y Brifysgol ddyletswydd foesol i’w gwarchod,” meddai.
“Mae cael gwared ar y swyddi hyn yn gwanhau un o ddarpariaethau arbenigol Ysgol y Gymraeg, ac yn niweidio’r statws cenedlaethol uchel sy’n perthyn i’r Ysgol.
“Ar hyn o bryd, mae methiant ar ran Prifysgol Bangor i hyrwyddo bwrlwm bywyd Cymraeg ehangach y Brifysgol yn llwyddiannus.
“Mae’n ddyletswydd ar Adran Farchnata Prifysgol Bangor i fynd i’r afael â’r methiannau hyn er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Ysgol, yn ogystal ag i hyrwyddo bywyd Cymraeg y Brifysgol fel ased economaidd.
“Mae ar y Brifysgol angen strategaeth hysbysebu gynhwysfawr tymor hir sy’n sefydlu Bangor fel y Brifysgol Gymraeg de facto yng Nghymru.
“Ar hyn o bryd mae’n methu.
“Mae diffyg gweledigaeth hirdymor difrifol wrth wraidd y penderfyniad hwn.
“Gofynwn ar y Brifysgol i bwyllo, ac ail-ystyried.”
Darllen mwy:
- ‘Toriadau yn ergyd i enw da’r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor’
- Diswyddiadau yn “ergyd enfawr i’r ardal,” meddai Siân Gwenllian
- Archdderwydd Cymru yn galw ar Brifysgol Bangor i beidio symud rhai o swyddogaethau Canolfan Bedwyr a “chwalu’r pwerdy iaith arloesol”.
- Gweinidog y Gymraeg yn trafod dyfodol Canolfan Bedwyr
- “Morâl staff yn anhygoel o isel” ym Mhrifysgol Bangor yn ôl undebau staff.