Mae deddfwriaeth wedi cael ei chyflwyno yn Holyrood a fyddai’n caniatáu gohirio etholiad y flwyddyn nesaf, os oes angen.
Mae Llywodraeth yr Alban yn dal i ddisgwyl i’r bleidlais gael ei chynnal ym mis Mai ond dywedodd gweinidogion fod y Bil newydd yn cynnwys mesurau “cyfrifol” o ystyried pandemig y coronafeirws.
Mae Bil Etholiad Cyffredinol yr Alban (coronafeirws) wedi’i gyflwyno i ganiatáu i’r bleidlais gael ei chynnal yn wahanol, os oes angen.
Cafodd y mesur ei gyflwyno gan Lywodraeth yr Alban ynghyd â’r Senedd, y Bwrdd Rheoli Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol a phleidiau gwleidyddol yn Holyrood.
Mae’n cynnwys dyddiad cau cynharach ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost, gyda hyn yn cael ei gyflwyno ar Ebrill 6 yn hytrach nag Ebrill 20, gan roi mwy o amser i’r pleidleisiau post gael eu prosesu.
Bydd Gweinidogion yn cael y pŵer i ganiatáu i bleidleisio ddigwydd dros fwy nag un diwrnod, os oes angen, er mwyn cefnogi ymbellhau cymdeithasol mewn gorsafoedd pleidleisio.
Rhag ofn bod angen gohirio’r etholiad, mae’r Bil yn symud y dyddiad ar gyfer diddymu’r Senedd o Fawrth 25 i Fai 5, er mwyn sicrhau y gall Aelodau o Senedd yr Alban basio deddfwriaeth frys ar gyfer hyn os oes angen.
Pwysleisiodd Graeme Dey, y Gweinidog Busnes Seneddol, mai’r disgwyl yw y bydd etholiad Holyrood yn gallu mynd yn ei flaen yn ôl y disgwyl ar Fai 6 2021.
“Mae’n ddoeth ac yn gyfrifol sicrhau ein bod wedi cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd fel y gellir cynnal y bleidlais yn ddiogel ac yn deg yn ystod y pandemig,” meddai.
“Mae’r Bil hwn yn cynnwys mesurau i helpu i sicrhau y gall pleidleisio fynd yn ei flaen ac y bydd pleidleiswyr yn gallu pleidleisio’n ddiogel ym mis Mai yn ôl y bwriad.
“Mae’r ddeddfwriaeth, y bydd y Senedd yn craffu arni, hefyd yn paratoi’n briodol ar gyfer argyfyngau yn y digwyddiad annhebygol iawn nad yw’n bosib cynnal yr etholiad oherwydd y pandemig y coronafeirws.
“Pe bai angen gohirio’r etholiad oherwydd y coronafeirws, bydd y mesurau’n caniatáu i Aelodau o Senedd yr Alban ddychwelyd i’r Senedd i bleidleisio ar unrhyw gynnig o’r fath drwy ddeddfwriaeth frys.”