Bu’n rhaid i bum criw ymateb i dân yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam yn gynharach heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 17).
Roedd tunnell o deiars yn llosgi ar dir coediog.
Mae’r tân bellach o dan reolaeth ond mae’r gwasanaeth tân yn annog pobol i gadw draw o’r ardal.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio pobol sy’n byw yn gyfagos i gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau.
Mae’r gwasanaeth tân nawr yn ymchwilio i sut a phwy wnaeth gynnau’r tân.
Tunnell o hen deiars ar dân ar dir coediog yn Llwyneinion, Rhos ger #Wrecsam. Mae'r tân dan reolaeth ac mae'r diffoddwyr tân wrthi'n tampio'r safle. Gofynnwn i bobl gadw draw o'r ardal, a dylai pobl sydd yn byw gerllaw gadw eu ffenestri a drysau ar gau.https://t.co/wxYyCTQlmY pic.twitter.com/D4cBseafYt
— North Wales Fire #DiogeluCymru #KeepWalesSafe (@NorthWalesFire) November 17, 2020