Mae Boris Johnson yn hunan-ynysu ar ôl iddo ddod i gysylltiad gydag Aelod Seneddol sydd wedi cael prawf positif am Covid-19, meddai Downing Street.
Yn ôl llefarydd ar ran Rhif 10 nid oes gan y Prif Weinidog symptomau ac mae’n parhau’n “iach”.
Mae wedi cael cyngor i hunan-ynysu gan wasanaeth Profi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd (GIG) ar ôl iddo fynd i gyfarfod gyda grŵp bach o ASau yn Downing Street fore dydd Iau, gan gynnwys yr AS dros Ashfield Lee Anderson.
Dywedodd Lee Anderson ar Facebook ei fod wedi dechrau cael symptomau Covid-19 ddydd Gwener ac, ar ôl cael prawf ddydd Sadwrn, wedi cael canlyniad positif fore dydd Sul.
“Fe fydd y Prif Weinidog yn dilyn y rheolau ac yn hunan-ynysu. Fe fydd yn parhau i weithio o Downing Street, gan gynnwys arwain ymateb y Llywodraeth i’r pandemig coronafeirws,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10.
Cafodd y Prif Weinidog driniaeth mewn uned gofal dwys yn Ysbyty St Thomas yn Llundain ym mis Ebrill ar ôl iddo gael ei heintio gyda’r coronafeirws.
Wythnos gythryblus
Roedd Lee Anderson wedi postio llun ar Facebook ddydd Iau ohono fe a’r Prif Weinidog yn cwrdd a’i gilydd ar ôl y cyfarfod yn Downing Street. Doedd yr un ohonyn nhw yn gwisgo mygydau ac mae’n ymddangos nad oedden nhw’n cadw pellter o 2 fedr ar wahân.
Mae Downing Street wedi mynnu bod Rhif 10 yn lle diogel i weithio a bod pob cam posib yn cael eu cymryd i geisio atal lledaeniad Covid-19.
Daw hyn wedi wythnos gythryblus i lywodraeth Boris Johnson ar ôl i’w brif ymgynghorydd Dominic Cummings, a’i gyfarwyddwr cyfathrebu Lee Cain, adael eu swyddi.
Oriau’n unig cyn y cyhoeddiad bod y Prif Weinidog yn hunan-ynysu, cafodd manylion eu rhyddhau am “gyhoeddiadau pwysig” ynglŷn â chynlluniau Boris Johnson ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Downing Street roedd y cynlluniau’n cynnwys mynd i’r afael a’r coronafeirws, addysg a buddsoddiad yn yr amgylchedd.