Mae ffigurau sydd newydd gael eu cyhoeddi’n dangos bod y nifer fwyaf erioed o feddygon teulu wedi hyfforddi yng Nghymru eleni.

Mae’r cynnydd o 7% o 186 i 200 yn golygu y bu cynnydd dair blynedd yn olynol, ac mae’n trechu’r nod flynyddol o 136 o bell ffordd, yn ogystal â’r cynnydd blynyddol i 160 a gafodd ei gytuno o ran llefydd hyfforddi y llynedd ar gyfer eleni.

Mae nifer o fesurau ar y gweill ers rhai blynyddoedd i recriwtio rhagor o feddygon teulu drwy hybu Cymru fel y lle delfrydol i hyfforddi.

Mae’r rhain yn cynnwys cynllun gwerth £20,000 i annog meddygon teulu i dderbyn swyddi mewn lleoliadau penodol sydd â record o gyfraddau isel o lenwi swyddi, a chynllun arall sy’n cynnig taliad un tro i bawb sy’n hyfforddi i fod yn feddygon teulu er mwyn talu cost arholiadau terfynol.

Mae’n ymddangos y bu’r cynlluniau’n arbennig o lwyddiannus yn y gorllewin a’r gogledd.

‘Newyddion gwych’

“Mae recriwtio 200 o hyfforddeion meddyg teulu newydd yn newyddion gwych mewn unrhyw flwyddyn, ond eleni yn fwy nag erioed gwelwyd y gofal hanfodol y mae gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ddarparu a faint yr ydym yn dibynnu arnyn nhw,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae’r ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwlaadol, Hyfforddi Gweithio Byw wedi gweithio gyda phartneriaid flwyddyn ar ôl blwyddyn i sicrhau bod mwy a mwy yn manteisio ar lefydd hyfforddi meddygon teulu, ac mae’r ffigurau hyn yn atgyfnerthu’r neges fod Cymru’n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw.

“Rwyf wrth fy modd ein bod ni eto wedi torri recordiau yn ein niferoedd recriwtio a’n bod ni’n gwneud cyfraniad sylweddol i ddarparu gwasanaeth gofal sylfaenol cynaladwy.”

‘Hyfforddi, gweithio a byw’

“Yn amlwg, rydym wrth ein bodd ein bod wedi recriwtio mwy na’n targed a bod mwy fyth o hyfforddeion yn dewis Cymru fel y lle i hyfforddi, gweithio a byw,” meddai’r Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

“Bydd ychwanegu’r unigolion hyn at weithlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn ein galluogi ni i gynyddu’r capasiti i ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaladwy yn y dyfodol, fel y nodwyd yn y cynllun Cymru Iachach.”