Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi cael ei feirniadu ar ôl dweud bod datganoli’n “drychineb i’r gogledd o’r ffin” yn yr Alban.
Daeth ei sylwadau wrth iddo annerch aelodau seneddol Ceidwadol neithiwr (nos Lun, Tachwedd 16), gan ddweud mai datganoli i’r Alban oedd “camgymeriad mwyaf Tony Blair”.
Mae’r sylwadau wedi cael eu beirniadu gan Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, ac mae Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, hefyd yn anghytuno â barn arweinydd y blaid Brydeinig yn San Steffan.
Dydy llefarydd ar ran Downing Street ddim yn gwadu bod Boris Johnson wedi gwneud y sylwadau, ond mae’n dweud ei fod e “wedi cefnogi datganoli erioed”, ond “nid pan gaiff ei ddefnyddio gan ymwahanwyr a chenedlaetholwyr i hollti’r Deyrnas Unedig”.
Serch hynny, dydy cyd-destun ei sylwadau ddim yn glir.
‘Annibyniaeth yw’r unig ffordd’
Fe fu Boris Johnson yn siarad â gwahanol aelodau’r Blaid Geidwadol wrth iddo geisio adfer ei blaid yn dilyn blwyddyn gythryblus yn sgil y coronafeirws a ffrae o fewn Downing Street.
Er bod Boris Johnson wedi dweud nad yw’n “gweld achos” dros roi mwy o bwerau i’r Alban, mae Nicola Sturgeon yn mynnu mai annibyniaeth yw’r ateb gorau erbyn hyn.
“Werth nodi sylwadau’r prif weinidog at y tro nesaf mae’r Torïaid yn dweud nad ydyn nhw’n fygythiad i bwerau Senedd yr Alban – neu, yn fwy anghredadwy, eu bod nhw’n cefnogi datganoli rhagor o bwerau,” meddai ar Twitter.
“Yr unig ffordd o warchod a chryfhau Senedd yr Alban yw annibyniaeth.”
Cafodd sylwadau Nicola Sturgeon eu hategu gan Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, sy’n dweud bod “y mwgwd Torïaidd wedi llithro go iawn ar ôl i Boris Johnson gael ei ddal yn honni bod datganoli i’r Alban yn gamgymeriad”.
“Mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn ymosod yn llawn ar setliad datganoli’r Alban gyda’i mesur cipio grym,” meddai.
“Mae atgasedd y prif weinidog ond yn tanlinellu’r bygythiad cynyddol rydyn ni’n ei wynebu.
“Efallai bod arweinydd Torïaidd yr Alban Douglas Ross yn ymdroelli’n wyllt heno – ond dydy pobol yn yr Alban ddim wedi anghofio ei fod e wedi pleidleisio’n barhaus yn erbyn pwerau newydd i Senedd yr Alban, ei fod e wedi rhoi sêl bendith i gyflwyno Brexit llym yn erbyn ewyllys yr Alban, ac wedi pleidleisio dros Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
“Y ffaith yw na ellir ymddiried yn San Steffan i barchu dymuniadau’r Alban.”
‘Dydy datganoli ddim wedi bod yn drychineb’
Dywed Douglas Ross na fu datganoli’n drychineb.
Bydd etholiadau Senedd yr Alban yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf, ac mae arweinydd Ceidwadwyr yr Alban yn bwriadu sefyll ar gyfer etholaeth Moray, lle mae e’n aelod seneddol yn San Steffan ar hyn o bryd.
“Dydy datganoli ddim wedi bod yn drychineb,” meddai.
“Obsesiwn di-baid yr SNP â refferendwm arall – uwchlaw swyddi, ysgolion a phopeth arall – fu’n drychineb.”
Roedd Bil y Farchnad Fewnol dan y lach fis diwethaf, a hynny am ei fod yn peryglu’r pwerau sydd wedi’u datganoli i wledydd Prydain, gyda Llywodraeth yr Alban yn disgrifio cyflwyno’r ddeddfwriaeth fel ymgais i “gipio grym”.
Ymateb Llafur
Mae Ian Murray, llefarydd yr Alban y Blaid Lafur yn San Steffan, yn dweud mai datganoli yw “un o gyflawniadau mwyaf balch Llafur”.
“Mae hyn yn cadarnhau nad yw Boris Johnson yn credu mewn datganoli ac y byddai’n rhoi dyfodol y Deyrnas Unedig mewn perygl,” meddai.
“Dylai ei lywodraeth fod wedi bod yn cydweithio mewn partneriaeth â’r llywodraethau datganoledig yn ystod yr argyfwng hwn.
“Yn hytrach, mae pobol ledled y Deyrnas Unedig wedi bod yn talu’r pris ar gyfer ei fethiannau.”
Eglurhad gan Downing Street
Mae Boris Johnson wedi bod yn cynnal trafodaethau â chynrychiolwyr etholaethau yng ngogledd Lloegr – o bellter Downing Street wrth iddo hunanynysu gan ei fod e wedi dod i gysylltiad ag unigolyn sydd wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.
Bwriad y trafodaethau yw ceisio adfer y blaid yn sgil beirniadaeth barhaus ynghylch y coronafeirws a ffrae fewnol yn Downing Street sydd wedi arwain at ymadawiad ei brif ymgynghorydd Dominic Cummings.
“Mae’r prif weinidog wedi cefnogi datganoli erioed, ond fe wnaeth Tony Blair fethu â rhagweld twf yr ymawahanwyr yn yr Alban,” meddai un ffynhonnell yn Downing Street.
“Ac mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod rhaid i ni gryfhau a gwarchod economi’r Deyrnas Unedig gyda Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
“Mae datganoli’n wych – ond nid pan gaiff ei ddefnyddio gan ymwahanwyr a chenedlaetholwyr i hollti’r Deyrnas Unedig.”