Bydd y gyfres deledu Merched Parchus ar gael i’w gwylio yn yr Almaen, y Swistir ac Awstria.
Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Hanna Jarman a Mari Beard, sydd hefyd yn actio rhannau dwy o’r prif gymeriadau.
Ar ôl i’r hawliau darlledu gael eu prynu gan blatfform ffrydio Ewropeaidd, bydd y gyfres ddrama nawr ar gael ar blatfform SOONER.
Bydd modd i wylwyr ffrydio’r gyfres drwy danysgrifio neu dalu amdanyn nhw’n unigol.
Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd
“Rydyn ni wrth ein boddau fod ein gwaith yn cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd,” meddai Hanna Jarman.
“Mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol ac mae’n wych fod yna farchnad arall i gynnwys Cymraeg ac ein bod ni’n gallu rhannu ein gwaith gyda gwledydd eraill.”
Mae’r gyfres yn dilyn stori Carys, merch sydd newydd wahanu oddi wrth ei chariad hirdymor wrth iddi geisio dygymod â bywyd fel oedolyn.
“Mae’r teimlad o fod ar goll a cheisio canfod ffordd drwy fywyd yn rhywbeth all bawb uniaethu gyda, ac rydyn ni’n gobeithio gwnaiff fwy o bobl fwynhau dilyn siwrnai Carys,” ychwanega Hanna Jarman.
Fe ymddangosodd y gyfres fel bocs set ar S4C Clic yn wreiddiol, cyn ymddangos ar y teledu wythnos yn ddiweddarach.
Cafodd ei henwebu ar gyfer gwobr y Ddrama Orau yng Ngwobrau Broadcast Digital 2020 a Gwobrau RTS Cymru 2020, yn ogystal â’r gwobrau Torri Trwodd ac Awdur Gorau yn BAFTA Cymru 2020.
‘S4C ar ei orau’
Yn ôl Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, mae Merched Parchus yn “enghraifft o S4C ar ei orau”.
“Mae’n ffantastig i weld Merched Parchus yn ymuno â’r trend diweddar o gynnwys Cymraeg dan y faner S4C Original yn cyrraedd cynulleidfaoedd byd eang,” meddai.
“Mae Merched Parchus yn enghraifft o S4C ar ei orau – drama ddigidol gyntaf wedi ei chreu gan ferched talentog o Gymru, sydd yn heriol, ac yn ennyn emosiwn.
“Ry’n ni’n hynod o falch bod y gyfres hon yn cael ei rhannu gyda chynulleidfaoedd ledled Ewrop.”