Gwyliodd 10.9 miliwn o wylwyr raglen agoriadol cyfres newydd ‘I’m A Celebrity…Get Me Out of Here!’ o Gastell Gwrych nos Sul, Tachwedd 15.

Dyma oedd rhaglen agoriadol fwyaf poblogaidd y gyfres ers 2013.

Mae’r gyfres deledu boblogaidd ar ITV wedi’i lleoli yn Awstralia fel arfer, ond fe ddaw’r newid i’r castell ger Abergele yn sgil y coronafeirws.

Yn ystod y bennod gyntaf gwelwyd yr enwogion yn cyrraedd y Gogledd mewn hofrenyddion cyn ymgartrefu yn y castell a chwblhau tasgau amrywiol.

Ymhlith yr enwogion eleni mae’r cyflwynydd teledu Vernon Kay, yr athletwr Syr Mo Farah, y newyddiadurwr Victoria Derbyshire, a’r actor Shane Richie.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trydar i groeawu’r rhaglen i’r Gogledd, gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Dafydd Elis Thomas yn dweud ei fod yn “gyfle i arddangos rhan ysblennydd o’n gwlad i gynulleidfa sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig”.