Mae’r diddanwr Des O’Connor wedi marw’n 88 oed, ddyddiau’n unig ar ôl iddo gwympo yn ei gartref.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan ei asiant a’i ffrind Pat Lake-Smith.

“Roedd e wedi bod yn gwella’n dda ac wedi bod mewn hwyliau gwych, a’i deulu’n ymweld â fe – yn unol â rheoliadau cyfnod clo’r ysbyty – ac roedd yn edrych ymlaen at fynd adref,” meddai.

“Yn anffodus, fe wnaeth ei gyflwr waethygu’n sydyn neithiwr ac fe fu farw’n dawel yn ei gwsg.”

Gyrfa a theulu

Fe gyflwynodd ei sioe deledu ei hun am fwy na 45 o flynyddoedd.

Fe fydd yn cael ei gofio am ei raglenni Today with Des and Mel a Des O’Connor Tonight.

Cyflwynodd e’r cwis Countdown ar ddiwedd cyfnod Carol Vorderman ar y rhaglen yn 2008.

Gwerthodd e fwy na 16 miliwn o recordiau, gan dreulio 117 wythnos ymhlith deg ucha’r siartiau, ac roedd ei gerddoriaeth yn destun sbort i’r digrifwyr Morecambe and Wise.

Derbyniodd e’r CBE am ei wasanaeth i adloniant a darlledu.

“Roedd Des, oedd yn 88 oed, wedi’i garu cymaint gan bawb,” meddai ei asiant.

“Roedd yn bleser gweithio gyda fe – roedd e’n ddawnus, yn llawn hwyl, yn bositif, yn frwdfrydig, yn garedig ac yn hollol broffesiynol.

“Roedd e’n caru bywyd ac yn ystyried brwdfrydedd bron mor bwysig ag ocsigen.

“Roedd e’n caru ei deulu yn llwyr – roedden nhw’n bopeth iddo fe.”

Mae’n gadael gwraig, Jodie a’u mab Adam, a’i bedair merch – Karin, TJ, Samantha a Kristina o dair priodas flaenorol.

“Mae bywyd Jodie ar chwâl,” meddai ei asiant wedyn.

“Mae hi ac Adam a merched Des yn brifo mwy nag y gallech chi ei ddychmygu.

“Des oedd y diddanwr eithaf.

“Roedd e’n caru bod ar lwyfan – yn diddanu cynulleidfa fyw.

“Roedd e bob amser yn dweud bod sŵn chwerthin fel sŵn cerddoriaeth o’r nefoedd.

“Fe gafodd e yrfa deledu hyfryd, yn cyflwyno’i sioeau teledu amser brig am fwy na 45 o flynyddoedd.

“Ar lwyfan, fe wnaeth e serennnu ym mron pob un o brif leoliadau’r byd.”