Mae’r Blaid Lafur yn galw am ddileu yr hyn maen nhw’n ei alw’n “gynnwys gwrth-frechlyn peryglus” oddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Y gobaith yw y bydd brechlyn Covid-19 ar gael cyn y Nadolig.

Mae Llafur yn galw am gyflwyn cosb ariannol a throseddol i gwmnïau sy’n gwrthod rheoli gwybodaeth sy’n rhybuddio pobol yn erbyn y brechlyn.

Yn ôl y blaid, mae rhaid grwpiau a mudiadau sydd â dilyniant eang yn cyhoeddi gwybodaeth anwir a chamarweiniol am frechlynnau.

Mae Jo Stevens, y llefarydd diwylliant, a Jonathan Ashworth, y llefarydd iechyd, ymhlith y rhai sydd wedi tynnu sylw at y mater, gan ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden yn rhybuddio bod “lledaenu cam-wybodaeth ar-lein yn berygl go iawn a chyfredol” i’r ymdrechion i ddod o hyd i frechlyn addas.

Maen nhw am i Lywodraeth Prydain gyflwyno “deddfwriaeth niwed ar-lein”.

‘Record druenus’

“Mae gan y Llywodraeth record druenus wrth weithredu yn erbyn llwyfannau ar-lein sy’n hwyluso lledaeniad cam-wybodaeth,” meddai Jo Stevens.

“Mae’n glir ers blynyddoedd fod hon yn broblem eang sy’n tyfu ac mae’r Llywodraeth yn gwybod, oherwydd fod Llafur wedi bod yn eu rhybuddio nhw ers peth amser, fod yna berygl gwirioneddol o ran derbyn y brechlyn.

“Mae hyn yn fater o fyw neu farw ac mae unrhyw un sy’n cael ei annog i beidio â chael brechlyn oherwydd hyn yn un yn ormod.”

Yn ôl Llafur, mae gan Lywodraeth Prydain record druenus wrth fynd i’r afael â cham-wybodaeth ar y we.

“Tra ein bod ni’n croesawu sefydlu uned cam-wybodaeth o fewn y Llywodraeth, bu’n destun siom fod gweinidogion wedi methu â darparu unrhyw wybodaeth am eu gwaith na dweud faint o gynnwys gafodd ei riportio ganddyn nhw wrth gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i’w dileu,” meddai llythyr gan y Blaid Lafur.

“Roedd y cydweithio â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf i’w groesawu ond mae’n teimlo’n annigonol dros ben gydag addewid ganddyn nhw dim ond i ddileu’r wybodaeth sy’n cael ei nodi gan y llywodraeth ac sy’n cynhyrchu elw.

“Yr hyn sydd ei angen yw gweithredu nawr a – chan fod y cwmnïau hyn wedi methu gweithredu eu hunain – rydym yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth frys a fyddai’n cynnwys cosb ariannol a throseddol ar gyfer methiant parhaus i weithredu.

“Byddai Llafur yn rhoi’r pleidleisiau i’r Llywodraeth sydd eu hangen arnyn nhw i gael y fath fesur trwy Dŷ’r Cyffredin.

“Mae un person nad yw’n derbyn y brechlyn oherwydd y cynnwys niweidiol hwn yn un yn ormod.”

Ymateb Llywodraeth Prydain

“Gallai gadael i gam-wybodaeth am frechlynnau ledaenu heb ei gwirio gostio bywydau Prydeinig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain.

“Rydym yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol dros ben ac rydym wedi cael ymrwymiad mawr gan Facebook, Twitter a Google i’w herio drwy beidio ag elwa o’r fath ddeunydd, a thrwy ymateb yn gynt i gynnwys sy’n cael ei nodi.

“Rydym yn parhau i gydweithio’n agos â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i hybu ffynonellau gwybodaeth awdurdodol fel bod gan bobol fynediad i ffeithiau nid ffuglen am frechlynnau.”