Mae’r llywodraethau datganoledig yn galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod y rhai sydd angen budd-daliadau yn eu derbyn.

Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ymuno â’i chydweithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth alw ar Thérèse Coffey i greu strategaeth newydd.

Maen nhw hefyd yn galw am sicrhau bod y cynnydd o £20 yr wythnos mewn Credyd Unffurf yn newid parhaol ac yn cael ei ymestyn i’r budd-daliadau fydd yn ei ddisodli yn y pen draw, megis y lwfans ar gyfer y rhai sy’n chwilio am swyddi sy’n seiliedig ar incwm.

Cafodd y cynnydd ei gyflwyno er mwyn gwarchod pobol rhag effeithiau economaidd Covid-19, ac mae disgwyl iddo gael ei ddileu fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Y camau sydd wedi’u cymryd

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu’r camau y bydden nhw’n eu cymryd i sicrhau’r incwm mwyaf i deuluoedd mewn tlodi yn y ddogfen Tlodi plant: cynllun gweithredu pwyslais ar incwm.

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban strategaeth fudd-daliadau fis Hydref y llynedd, ac mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi diweddariad fis Hydref y flwyddyn nesaf.

Mae strategaeth Gogledd Iwerddon wedi cynhyrchu dros £260m o fudd-daliadau i drigolion y wlad ers 2005.

Ond does gan Lywodraeth Prydain ddim strategaeth er mwyn hybu budd-daliadau na chefnogi pobol i dderbyn arian sydd ei angen arnyn nhw.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae’n hollbwysig fod pobol yn ymwybodol o’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo,” meddai Hannah Blythyn.

“Mae’r pandemig wedi taflu cysgod hir ar yr unigolion mwyaf anghenus ac mae wedi amlygu pwysigrwydd cael rhwyd ddiogelwch ariannol gadarn yn eu lle i deuluoedd ac unigolion.

“Mae rhaid hefyd sicrhau bod rhaglenni cyllido yn cael yr effaith fwyaf ar fywydau’r rhai sy’n byw mewn tlodi.

“Wrth gael dull gweithredu strategol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, bydd sicrwydd bod pawb yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Rydym wedi nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu incwm teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i’r eithaf a’u cefnogi i feithrin eu gwydnwch ariannol.

“Rydym wedi ei gwneud yn haws i bobl wneud cais am daliadau brys drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol ac rydym wedi rhoi bron i £9m ychwanegol yn y gronfa hon.

“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am y prif gyfryngau i fynd i’r afael â thlodi – mae treth a lles yn allweddol i wella canlyniadau i deuluoedd incwm isel.

“Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal y taliad wythnosol o £20 ar gyfer aelwydydd incwm isel ar Gredyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith.

“Gallai’r bwriad i dynnu’r taliad hwn yn ôl fis Ebrill nesaf wthio miloedd yn rhagor o aelwydydd i dlodi.”

Ymateb Llywodraeth yr Alban

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw ac yn gallu cael gafael arno,” meddai Shirley-Anne Somerville.

“Mae sichrau bod cymaint â phosibl yn hawlio budd-daliadau dyledus iddyn nhw yn rhwymedigaeth foesol, yn enwedig yn y cyfnod ansicr hwn pan fo tystiolaeth glir o’r angen cynyddol am gymorth.”