Mae tywydd garw wedi arwain at bryderon am lifogydd yng Nghymru, yn enwedig ar arfordir y de-orllewin.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi wyth o rybuddion llifogydd llawn – sy’n gofyn am weithredu ar frys – gerllaw arfordir siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion.

  • Afon Tywi wrth Gei Caerfyrddin
  • Ardaloedd llanw yn Niwgwl; Cei Caerfyrddin; Parc Caerfyrddin Bae Caerfyrddin, Cydweli; Talacharn; Pentwyn; Dale; Aberteifi.

Mae hefyd 12 o rybuddion gwyliadwriaeth llifogydd – rhybuddion llai difrifol – mewn grym ar hyd bron y cyfan o arfordir Cymru, yn ogystal â gwaelodion dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin ac ar aberoedd afonydd Gwy ac Wysg yn Sir Fynwy.