Mae George Eustace, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan, yn gwadu y bydd ymadawiad Dominic Cummings, prif ymgynghorydd y prif weinidog Boris Johnson, yn cael effaith ar drafodaethau Brexit.

Fe ddaw ar ôl i Simon Coveney, Gweinidog Tramor Iwerddon, ddweud bod ymadawiadau o Downing Street yr wythnos hon wedi tynnu sylw sylweddol oddi ar y trafodaethau rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd i ddod i gytundeb masnach.

Mae Dominic Cummings wedi gadael yn gynt na’r disgwyl, ar ôl cyhoeddiad yn wreiddiol y byddai’n gadael ymhen mis.

“Ond dydyn nhw ddim yn tynnu sylw’r Undeb Ewropeaidd,” meddai wrth Sky News.

“Dydyn ni byth wedi canolbwyntio ar y personoliaethau pan ddaw i Brexit.

‘Dim effaith’

Ond mae George Eustace yn gwadu’r honiadau.

“Mae’r trafodaethau wedi’u harwain gan David Frost ers y cychwyn,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Mae ganddo fe dîm talentog a phrofiadol iawn o arbenigwyr technegol o’i amgylch e.

“Mae e wedi arwain y trafodaethau hyn ers y cychwyn ac yn amlwg mae’n dal mewn lle ac yn parhau i wneud hynny.

“Felly dw i ddim yn meddwl bod ymadawiad Dominic Cummings am gael unrhyw effaith ar y trafodaethau, gan fod yr Arglwydd Frost wedi bod yn arwain y rheiny.”

Fe ddywedodd fod Dominic Cummings yn dueddol o weithio “am gyfnodau byr”.

“Dw i’n nabod Dominic Cummings fy hun ers nifer o flynyddoedd,” meddai.

“Mae ganddo fe nifer o gryfderau mawr ac un ohonyn nhw yw ennill ymgyrchoedd.

“Ac mae’n dueddol o gymhwyso’i hun am gyfnodau byr, teithiau dyletswydd byrion, ar newidiadau strategol mawr megis canlyniad refferendwm 2016, megis etholiad cyffredinol 2019.

“Ac mae’n dalentog iawn o ran hynny.

“Ond mater i’r prif weinidog bob amser yw pwy fydd ei brif ymgynghorwyr.”