Mae’r brwydro ffyrnig a fu yn rhanbarth Tigray yng ngogledd Ethiopia wedi cyrraedd Eritrea, yr ochr draw i’r ffin.

Cafodd o leiaf dri o daflegrau eu tanio at y brifddinas Asmara, oriau’n unig ar ôl rhybudd gan lywodraeth Tigray am ymosodiad posib.

Mae’r rhanbarth yn cyhuddo Eritrea o ymosod ar gais llywodraeth ffederal Ethiopia ers dechrau’r gwrthdaro ar Dachwedd 4.

Mae lle i gredu bod cannoedd o bobol o’r ddwy ochr i’r ddadl wedi cael eu lladd, a bod mwy nag 17,000 o ffoaduriaid wedi ffoi i Swdan gan rybuddio am ryfel cartref.

Mae rhanbarth Tigray yn bygwth ymosod ar Eritrea eto ar ôl iddi gael ei hynysu o weddill y wlad, sy’n golygu na all pobol gyrraedd eu hanwyliaid ac na all cyrff dyngarol gludo nwyddau hanfodol i filiynau o bobol.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn rhybuddio bod perygl o ansefydlogrwydd yn Ethiopia am gryn amser i ddod, a hyd yn oed y posibilrwydd o argyfwng dyngarol.