Mae Gordon Brown, cyn-brif weinidog Prydain, yn rhybuddio na ddylid cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn ystod adferiad Covid-19.

Fe ddywedodd wrth raglen Andrew Marr ar y BBC mai’r cwestiwn yw “a ddylid cynnal refferendwm, nid a ellid cynnal refferendwm”.

Roedd yr Albanwr yn un o’r rhai adeg y refferendwm cyntaf a deithiodd i’r Alban ar ran gwleidyddion o blaid yr Undeb i ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth.

“Rydyn ni yng nghanol feirws, rydyn ni yng nghanol dirwasgiad,” meddai, gan ychwanegu fod Prydain yn wynebu “problemau enfawr”.

“Mae yna amser i wella, rhaid bod amser i wella cyn i chi fynd i refferendwm sy’n achosi hollt a gwrthdaro a fydd wir yn achosi dryswch yn yr Alban am fisoedd i ddod,” meddai.

Roedd yn ymateb i sylwadau Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, sy’n dweud bod “rhaid” cynllunio ar gyfer ail refferendwm yn 2021.

‘Dyfodol cyfan Prydain’

“Dw i’n credu y bydd y rhan fwyaf o bobol yr Alban yn penderfynu yng nghanol feirws pan fod rhaid i chi wella’r feirws, fod rhaid i chi wella’r dirwasgiad a bod rhaid i chi edrych ar ddyfodol cyfan Prydain – ac mae’n rhaid i’r SNP fod yn onest ynghylch beth mae hynny’n ei olygu nawr i annibyniaeth, nawr fod gyda chi newidiadau economaidd yn digwydd – dw i ddim yn credu mai dyma’r amser iawn o gwbl.”