Mae ambiwlans wedi cael ei ddwyn wrth i barafeddygon drin claf yn Shotton yn Sir y Fflint.

Fe ddigwyddodd neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 14), yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans.

Cafodd cerbyd arall ei ddanfon i’r digwyddiad ac fe gafodd yr heddlu wybod ar unwaith, ac fe ddaethon nhw o hyd i’r cerbyd yn ddiweddarach.

Dywed y Gwasanaeth Ambiwlans fod dwyn un o’u cerbydau’n “weithred eithriadol o anghyfrifol” sy’n peryglu cleifion ac aelodau’r cyhoedd.

Maen nhw’n dweud y gallai fod wedi achosi “niwed difrifol iawn” pe bai angen cludo’r claf i’r ysbyty, ac maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth.

Mae Heddlu’r Gogledd yn cynnal ymchwiliad fforensig o’r cerbyd, ac mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn dweud bod y digwyddiad yn cael ei drin fel un “difrifol iawn”.