Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi saith o rybuddion ar hyd yr arfordir o ganlyniad i lanw uchel, gwyntoedd cryfion a glaw trwm sydd wedi arwain at lifogydd.

Mae’r rhybuddion yn eu lle yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Maen nhw’n effeithio ar ardaloedd Niwgwl a Dale yn Sir Benfro, Aberteifi yng Ngheredigion, ac ardaloedd Cydweli, Pentwyn, Caerfyrddin ac afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin.

Yn y gogledd, mae peth oedi i deithwyr ar drenau yn ardal Penrhyndeudraeth.

Mae dwsin o rybuddion llai difrifol mewn grym ar hyd arfordir y gogledd.