Mae dyn 25 oed wedi marw ac mae dynes 18 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cymryd cyffuriau ketamine yng Nghaerdydd oedd wedi cael eu gwenwyno.

Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad i achosion posib o werthu’r cyffuriau yn y brifddinas.

Maen nhw’n rhybuddio bod y cyffuriau’n cynnwys “cynhwysion gwenwynig”.