Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi cael ei gyhuddo o wneud sylwadau “amharchus” am ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Fe wnaeth e ymddiheuro wrth i Lywodraeth yr Alban roi’r flaenoriaeth i’r frwydr yn erbyn y coronafeirws ar draul ail refferendwm.

Ond mae’n mynnu y dylid ei gynnal y flwyddyn nesaf.

“Mae Covid wedi dod ac mae Llywodraeth yr Alban, yn arbennig, wedi gorfod cymryd y cyfrifoldeb o arwain y wlad drwy’r argyfwng hwn,” meddai.

“Felly fe fu’n rhaid i ni, o safbwynt tactegol, oedi cyn cynnal refferendwm yn 2020 a dw i’n ymddiheuro bod hynny wedi digwydd.”

Ond mae’n dweud y dylid cynnal refferendwm “yn gyflym” ar ôl i’r sefyllfa gael ei datrys.

Ymateb y Ceidwadwyr

Dywed Douglas Ross fod sylwadau Ian Blackford yn “amharchus iawn”.

“Nid yn unig mae ymrwymiad Ian Blackford i refferendwm fisoedd o nawr yn anghyfrifol ond mae’n rhithiol ac yn dangos pa mor anwybodus yw’r SNP,” meddai.

“Mae Ceidwadwyr yr Alban yn canolbwyntio ar frwydro’r pandemig ac ailadeiladu’r economi.

“Dyna beth mae pobol ei eisiau ac yn ei ddisgwyl.

“Mae’r ffaith ei fod e’n teimlo’r angen i ymddiheuro am beidio â chynnal refferendwm eleni wrth i filoedd o fywydau yn yr Alban gael eu colli a theuluoedd yn parhau i alaru yn amharchus iawn ac yn adrodd cyfrolau am obsesiwn yr SNP ag annibyniaeth dros bopeth arall.”