Gallai plant mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru orfod gwisgo mygydau wyneb, yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

Daw ei sylwadau wrth iddi siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC.

Mae mesurau tebyg eisoes mewn grym yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae’n rhaid i blant wisgo mygydau mewn llefydd lle maen nhw’n ymgynnull ac mewn coridorau.

Hyd yn hyn, ysgolion a chynghorau lleol sydd wedi bod yn gwneud y penderfyniad ynghylch gorfodi plant i wisgo mygydau yng Nghymru – penderfyniad sydd wedi’i feirniadu’n helaeth gan y gwrthbleidiau ac undebau.

Mae’n dweud y bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth wyddonol newydd am ymlediad y coronafeirws ymhlith plant.

Yn ôl y dystiolaeth newydd, mae’r feirws yn lledu mwy na’r disgwyl ymhlith plant mewn ysgolion.

“Rydyn ni’n ystyried, yn wyneb y dystiolaeth newydd hon, ai dyna’r peth priodol i’w wneud,” meddai Kirsty Williams, cyn ychwanegu ei bod yn “annhebygol iawn” y byddai plant yn dioddef niwed yn sgil y feirws.

“Ond rydyn ni wedi gweld twf yn nifer yr achosion ymhlith poblogaeth yr ysgolion uwchradd ac mae’n ymddangos bod gan blant o’r grwpiau oedran hynny ran yn ymlediad y feirws.”

Mesurau pellach

Dywedodd Kirsty Williams fod Llywodraeth Cymru’n ystyried cyfres o fesurau eraill i geisio lleihau ymlediad y coronafeirws mewn ysgolion.

Gallai’r rhain gynnwys atal plant rhag bod yn agos i’w gilydd wrth newid eu dillad ar ôl gwneud ymarfer corff, a chyfyngu ar hawl plant i ganu.