Mae Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Llafur Aberafan, yn galw ar Lywodraeth Prydain i “gamu i fyny a gweithredu” er mwyn sicrhau dyfodol gweithfeydd dur Port Talbot.
Yn sgil Brexit, mae perchnogion Indiaidd Tata yn dweud y bydd yn rhaid i’r gweithfeydd fod yn fwy hunangynhaliol yn y dyfodol o ganlyniad i newidiadau yn y ffordd y bydd y cwmni’n cael ei redeg yng ngwledydd Prydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd adran Brydeinig y cwmni bellach yn gweithredu ar wahân i’r gweithfeydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, eisoes wedi dweud y bydd yn ceisio trafodaethau brys â Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i ddatrys y sefyllfa.
Rhybudd i “beidio â damcaniaethu”
Er gwaetha’r sefyllfa, mae Simon Hart yn dweud bod rhaid “peidio â damcaniaethu” ynghylch y dyfodol.
“Mae gyda chi gwmni fel Tata sydd eisiau gwneud dur yn hunangynhaliol ym Mhort Talbot,” meddai Ysgrifennydd Cymru wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.
“Mae gyda chi lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru sydd eisiau i ddur hunangynhaliol gael ei wneud ym Mhort Talbot.
“Mae hynny’n fan cychwyn da iawn ar gyfer unrhyw drafodaethau ynghylch y dyfodol, felly gadewch i ni beidio â damcaniaethu na cheisio dyfalu lle bydd hyn i gyd yn dod i fwcwl a chodi ofn ar bobol i feddwl y bydd yn dod i ddiweddglo anodd.
“Mae hynny’n ddamcaniaethol ac yn annheg iawn.”
Cyhuddo Llywodraeth Prydain o ddiffyg cefnogaeth
Wrth ymateb i’r sefyllfa, dywed Stephen Kinnock fod Llywodraeth Prydain yn euog o ddiffyg buddsoddi yn y diwydiant dur yng Nghymru.
“Dw i’n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod dur yn ddiwydiant ag iddo sail strategol,” meddai wrth yr un rhaglen.
“Mae’n sylfaen i’r holl weithgynhyrchu, yn seiliau’r cartrefi rydyn ni i gyd yn byw ynddyn nhw, y swyddfeydd rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw, y ceir rydyn ni’n eu gyrru.
“Mae angen dur ar y cyfan.
“All adferiad economaidd ôl-feirws ddim digwydd heb ddiwydiant dur iachus a chryf, felly mae Simon Hart a finnau ar yr un dudalen o ran hynny.
“Lle’r ydyn ni’n wahanol, dw i’n meddwl, yw ein bod ni wedi gweld dros y ddeng mlynedd diwethaf, fethiant llwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi’r diwydiant dur, yn nhermau polisi lle mae costau ynni i’n diwydiant ni’n llawer mwy nag ydyn nhw yn Ffrainc a’r Almaen, caffael lle mae’r llywodraeth yn dal i ddefnyddio dur o dramor drwy’r amser ar gyfer prosiectau isadeiledd…
“A dydyn ni ddim wedi gweld dim byd ganddyn nhw o ran cefnogi Tata Steel trwy’r argyfwng llif arian tymor byr maen nhw wedi’i wynebu oherwydd y pandemig lle mae galw wedi gostwng oddi ar ymyl y dibyn.”
Colledion ariannol
Roedd Tata eisoes yn gwneud colledion ariannol cyn argyfwng Covid-19, ond mae’r pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa.
“Rydyn ni’n mynd yn ôl at y rhesymau am hynny, a rhan fawr ohono yw ein bod ni wedi cael Llywodraeth Prydain sydd heb fod yn gweithio mewn partneriaeth â diwydiant, a’r diwydiant dur yn benodol, i ddarparu sail ar gyfer amgylchfyd cystadleuol sy’n sicrhau bod buddsoddiad yn mynd i’r cwmni a fydd yn helpu’r cwmni i fod yn fwy effeithlon ac i gynhyrchu dur ar gyfradd sy’n ei alluogi i wneud elw,” meddai Stephen Kinnock.
“Mae hynny’n fethiant sylfaenol o ran ewyllys a dymuniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi diwydiant dur Cymru a Phrydain.
“Mae angen nawr i ni weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod fod penderfyniad Tata i werthu rhannau Iseldiroedd ei weithrediadau yn golygu bod gyda ni ymrwymiad llawn nawr i rannau Prydeinig ond er mwyn i’r rhannau Prydeinig ffynnu, mae angen cefnogaeth Llywodraeth Prydain a does dim rhagor o esgusodion, nunlle ar ôl nawr i guddio o ran Llywodraeth Prydain.
“Maen nhw o dan y chwyddwydr i gamu i fyny a gweithredu.”