Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o herwgipio dyn yn Llanelli.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 1.30yp ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 14) i ddigwyddiad yn Heol yr Orsaf.

Yn sgil ymchwiliad yr heddlu, cafodd cerbyd ei stopio yn ardal Trostre y dref, a chafodd y chwech eu harestio.

Maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad, ac maen nhw’n dweud mai un digwyddiad unigol oedd hwn, ac nad oes rheswm i boeni.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.