Mae cwmwl o ansicrwydd eto ynghylch dyfodol gwaith dur Port Talbot wrth i’r perchnogion Tata gyhoeddi newidiadau yn y ffordd y byddan nhw’n rhedeg eu cwmni ym Mhrydain.

O hyn ymlaen, fe fydd adran Brydeinig y cwmni Indiaidd yn cael ei wahanu oddi wrth eu gweithfeydd yn yr Undeb Ewropeaidd, sy’n golygu y bydd angen i waith Port Talbot fod yn fwy hunan-gynhaliol yn y dyfodol.

“Fe fydd y cyhoeddiad yn peri pryder mawr i weithwyr Tata Steel ledled Cymru, eu teuluoedd, y cymunedau lleol a’r gadwyn gyflenwi,” meddai Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Ken Stakes.

“Er hyn, gwyddom fod dyfodol i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

“Fe wnes i a Phrif Weinidog Cymru siarad â Tata heddiw a gwnaethant bwysleisio eu bod yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i’w gwaith yn y Deyrnas Unedig a diogelu’r gweithlu o 8,000 o bobl. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr hyn yng Nghymru.”

Dywedodd fod Mark Drakeford yn ceisio trafodaethau brys â Boris Johnson ac Ysgrifennydd Cymru i alw am weithredu brys.

“Mae’r diwydiant bellach yn aros i Lywodraeth Prydain  gymryd camau ar unwaith i ddiogelu’r sector a diogelu swyddi,” meddai. “Mae pob dydd sy’n mynd heibio yn golygu diwrnod arall sydd wedi’i golli i’r gweithwyr ac i ddiwydiant sydd o bwysigrwydd strategol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth sylweddol i Tata dros y blynyddoedd i sicrhau bod dyfodol i ddur yng Nghymru. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu dyfodol y diwydiant ond mae angen i Lywodraeth Prydain weithredu’n bendant a gwneud yr un peth yn awr. Mae’n hanfodol ein bod yn cadw sector dur yng Nghymru fel y gallwn wynebu’r heriau a fydd yn deillio o beidio â bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.”