Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae holl draethau Cymru wedi cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer glendid dŵr ymdrochi.

O’r 105 o draethau a gafodd eu harolygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, barnwyd bod 84 yn rhagorol, sef y categori uchaf, 14 yn dda a 7 yn ddigonol.

Fe fydd yr holl draethau yn y categori rhagorol yn gallu ymgeisio am wobr y Faner Las ar gyfer 2021.

Wrth groesawu’r canlyniadau, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Rwy’n falch mai yng Nghymru o hyd y mae rhai o’r dyfroedd ymdrochi gorau yn Ewrop – ac ni fyddem wedi sicrhau’r canlyniadau cyson hyn heb waith caled ein partneriaid. Rwy’n arbennig o falch o Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwaith hanfodol y gwnaethon nhw ei wneud i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, wrth barhau â’r rhaglen profi ansawdd dŵr er gwaetha’ anawsterau pandemig y COVID-19.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas:

“Mae hyn yn arwydd ardderchog o’r hyder yng nghyflwr ein harfordir ac yn y cydweithio rhwng cymunedau, rheoleiddwyr a phartneriaid eraill i ddiogelu ein hasedau naturiol.”