Mae genedigaeth rhinoseros prin yn Sŵ Caer yn ddiweddar yn destun dathlu ledled y byd, yn ôl ceidwaid y sŵ.

Llai na mil o’r rhinoseros du dwyreiniol sydd ar ôl yn y byd, a llwyddodd y sŵ i ffilmio’r fam Ema Elsa yn rhoi genedigaeth ar ôl beichiogrwydd o 15 mis.

“Mae genedigaeth rhinseros du dwyreiniol – rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol o ddiflannu – bob amser yn rhywbeth arbennig iawn,” meddai Andrew McKenzie, rheolwr y tîm sy’n gyfrifol am y rheinoseros yn y sŵ.

“Mae’r rhinoseros hyn wedi cael eu gwthio i ymylon eithaf bodolaeth ac mae pob ychwanegiad at y raglen fridio Ewropeaidd y rhywogaethau prin hyn yn cael ei ddathlu’n fyd-eang.”

Mae’r sŵ yn gofyn i bobl helpu dewis enw ar gyfer y llo prin. Gall dilynwyr y sŵ ar Facebook gymryd rhan mewn pleidlais rhwng Kasulu, Koshi a Kaari.