Wythnos ar ôl dinistr Corwynt Eta, mae gwledydd yng nghanolbarth America yn wynebu bygythiad storm drofannol arall dros y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl y bydd Storm Drofannol Iota yn dynesu at arfordiroedd Nicaragua a Honduras ddydd Llun, gyda gwyntoedd peryglus a chymaint â 30 modfedd o law yn ei sgil.

Daw hyn ar ôl i o leiaf 120 o bobl gael eu lladd yn Nicaragua yr wythnos ddiwethaf ac wrth i’r corwynt arwain at lifogydd a thirlithriadau mewn rhannau helaeth o ganolbarth America.