Am y tro cyntaf ers etholiad arlywyddol America’r wythnos ddiwethaf, mae Donald Trump yn ymddangos fel pe bai’n awgrymu y gallai fod wedi colli.

Er nad yw wedi cydnabod buddugoliaeth Joe Biden, fe wnaeth gyfaddef ddoe nad oedd yn gwybod pwy fydd mewn grym y flwyddyn nesaf.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg ar y coronafeirws ddoe, dywedodd ei fod yn benderfynol o beidio â chyflwyno cyfnod clo ledled America tra bydd ef yn arlywydd.

“Fydd y weinyddiaeth hon ddim yn mynd i gyfnod cloi,” meddai. “Beth bynnag a fydd yn digwydd yn y dyfodol, pwy a wyr, mae’n debyg mai amser a ddengys, ond fe allaf ddweud wrthych na fydd y weinyddiaeth hon yn mynd i gyfnod cloi.”

Gadawodd y gynhadledd cyn ateb unrhyw gwestiynau pellach.

Cyhoeddi canlyniadau Arizona a Gogledd Carolina

Fe ddaeth sylwadau diweddaraf Donald Trump gyda chadarnhad ei fod wedi colli talaith Arizona, ond wedi cadw Gogledd Carolina fel y disgwyl.

Os bydd ailgyfrif yn Georgia yn cadarnhau buddugoliaeth Joe Biden yno, fe fydd wedi ennill y coleg etholiadol yn gyffyrddus o 306 pleidlais i 322.

Fe ddaeth i’r amlwg hefyd nad yw ymdrechion Donald Trump i gael llysoedd i wrthdroi’r canlyniad wedi bod yn llwyddiannus hyd yma.

Mae llys apêl ffederal wedi gwrthod ymgais i anwybyddu 9,300 o bleidleisiau post a gyrhaeddodd ar ôl dydd yr etholiad yn Pennsylvania. Fyddai hyn ddim wedi gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad prun bynnag, gan fod Joe Biden ar y blaen o 60,000 o bleidleisiau yno.

Mae llysoedd yn Michigan ac Arizona hefyd wedi gwrthod amrywiol apeliadau gan dîm Donald Trump i ymyrryd yng nghanlyniadau’r taleithiau hynny.