Mae ymadawiad prif ymgynghorydd y Prif Weinidog neithiwr wedi gadael gwagle gwleidyddol ar frig llywodraeth Prydain.

Cafodd Dominic Cummings ei weld yn gadael Downing Street yn cludo blwch mawr ar ddiwedd wythnnos gythryblus yn llywodraeth Boris Johnson.

Daeth ei ymddiswyddiad ddyddiau ar ôl i’w gyd-ymgyrchydd blaenllaw dros Brexit, Lee Cain, ymddiswyddo fel pennaeth cyfathrebu.

Mae Dominic Cummings wedi bod yn ffigur hynod o ddadleuol o fewn y llywodraeth, yn enwedig ar ôl iddo gydnabod yn agored iddo deithio i gartref ei rieni yn Durham yn groes i gyfyngiadau’r cyfnod clo ledled Prydain ym mis Mai.

Er ei fod eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n gadael ei swydd at ddiwedd y flwyddyn, mae adroddiadau o ffraeo tanbaid yn Rhif 10, wrth i Boris Johnson gyhuddo Dominic Cummings a Lee Cain o fod wedi briffio yn ei erbyn. Yr awgrym yw eu bod wedi honni bod Boris Johnson yn ei chael hi’n anodd gwneud unrhyw benderfyniadau.

Daw’r holl anghydfod i’r amlwg wrth i’r llywodraeth barhau â’i thrafodaethau i geisio cytundeb masnachol gyda’r Undeb Ewropeaidd ac ymladd pandemig y coronafeirws.

Mae Syr Edward Lister wedi cael ei benodi’n bennaeth dros dro gweithlu Rhif 10, ac mae enw’r cyn-ganghellor Savid Javid wedi cael ei grybwyll fel ymgeisydd posibl am y swydd barhaol.