Profodd un o bob pump o blant – tua 764,000 o ddisgyblion yng Nghymru a Lloegr – fwlio ar-lein yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn ôl eu hadroddiad, galw enwau oedd un o’r pethau mwyaf cyffredin ymhlith plant 10 i 15 oed.

Roedd nifer yr achosion o fwlio ar-lein hefyd yn sylweddol uwch ar gyfer plant â salwch neu anabledd hirdymor (26%) na’r rhai heb salwch neu anabledd hirdymor (18%).

Gall Covid gael effaith sylwedddol ar y canlyniadau

Mae ymchwilwyr yn cydnabod fod y gwahaniaeth rhwng bwlio wyneb yn wyneb ac ar-lein yn debygol o fod wedi newid yn sylweddol yn y cyfnod ar ôl i’r data gael ei gasglu, a hynny oherwydd unigrwydd gartref a mwy o amser yn cael ei dreulio ar-lein oherwydd Covid-19.

“Mae mwy o ddefnydd o ffonau clyfar, cyfryngau cymdeithasol ac apiau yn golygu y gall bwlio ar-lein ddilyn plentyn unrhyw le maen nhw’n mynd,” meddai Sophie Sanders o Ganolfan Troseddu a Chyfiawnder y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Gan ddefnyddio data newydd o’r arolwg troseddu, gallwn weld bod tua un o bob pump o blant rhwng 10 a 15 oed wedi profi rhyw fath o fwlio ar-lein yn ystod y 12 mis blaenorol.

“Mae hyn yn cymharu â dau o bob pump o blant a brofodd fwlio wyneb yn wyneb, ac ers i’r data gael ei gasglu cyn y pandemig, mae ynysu plant gartref a mwy o amser yn cael ei dreulio ar y rhyngrwyd yn debygol o fod wedi cael effaith sylweddol ar y gwahaniaeth rhwng y byd go iawn a seibr-fwlio.”

Pryder mawr i’r NSPCC

Dywed yr NSPCC fod y canfyddiadau’r adroddiad yn “peri pryder mawr” iddyn nhw.

“Gwyddom fod bwlio ar-lein yn drawmatig iawn i bobl ifanc ac y gall deimlo’n amhosib dianc,” meddai.

“Mae’r clo cenedlaethol wedi gwaethygu’r teimladau hyn ac o fis Ebrill i fis Hydref, cynhaliodd ein cwnselwyr hyfforddedig dros fil o sesiynau cwnsela gyda phobol ifanc am fwlio ar-lein.”