Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio bod cyflenwad o gyffuriau peryglus wedi eu dosbarthu yng Ngheredigion.
Daw hynny wedi i dri pherson dioddef gorddos dros y dyddiau diwethaf.
Mae’n debyg bod y cyffuriau, sy’n cael eu gwerthu fel Valium, yn cynnwys cyfuniad o gynhwysion gwenwynig.
Rhybudd yr Heddlu
Yn ôl DS Allan Rees, mae’r cyffuriau wedi cyrraedd yr ardal dros y dyddiau diwethaf ac mae’n debygol eu bod yn parhau i gael eu dosbarthu yn lleol.
“Gwyddom fod y tabledi, sydd yn anarferol o wyn o ran lliw, yn cymryd effaith yn sydyn a’u bod yn ddychrynllyd o gryf.”
“Mae cymysgu cyffuriau, boed hynny’n fwriadol neu beidio, yn beryglus iawn i unrhyw un sy’n eu cymryd,” meddai.
“Rydym yn apelio at unrhyw un sy’n cymryd cyffuriau i geisio sylw meddygol ar frys, pe baent yn mynd yn sâl.”