Mae’n bosib y bydd sawl math gwahanol o frechlyn covid ar gael i bobol Cymru, ac y bydd y rhaglen frechu yn dechrau cyn Nadolig, yn ôl Prif Weithredwr y GIG.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi taro cytundebau â chwe gwneuthurwr brechlyn, ac wedi sicrhau cyfanswm o 350 miliwn dos i bobol y Deyrnas Unedig.

A fore ddoe, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gadarnhau y byddai Cymru yn derbyn 4.78% o’r brechlynnau yma – gyda’r ffigwr yn cael ei gyfrifo ar sail Fformiwla Barnett.

Mae cryn drafod a yw fformiwla Barnett yn ffordd deg o ddyrannu (dolen allanol).

Dau gwmni’n geffylau blaen

Y mis hwn, mae dau gwmni wedi cyhoeddi bod eu brechlynnau yn gweithio: brechlyn Moderna sy’n amddiffyn rhyw 95% o bobol, a brechlyn Pfizer a BioNTech sy’n amddiffyn 90% o bobol.

Does dim un o’r rhain wedi derbyn sêl bendith rheoleiddwyr eto, ond mae disgwyl y byddan nhw ar gael i bobol y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesa’.

Yn siarad â golwg360 brynhawn heddiw, dywedodd Dr Andrew Goodall ei bod yn bosib y bydd hyd yn oed rhagor o frechlynnau ar gael i bobol Cymru yn y pendraw.

“Cafodd mwy nag un brechlyn ei brynu yn ystod y cyfnod cynllunio oherwydd doeddwn ddim yn siŵr pa frechlynnau fyddai’n llwyddiannus,” meddai’r Prif Weithredwr wrth golwg360.

“A bellach mae’n ymddangos bod gyda ni o leia’ dau frechlyn a [allai bod yn effeithiol]. Mae’n ddigon posib – oherwydd datblygiadau rhyngwladol – y bydd gennym frechlynnau eraill hefyd.

“Ond dw i ddim yn credu y dylem ei ystyried yn broblem – bod sawl brechlyn gwahanol ar gael i ni,” meddai wedyn.

Cwestiwn amlwg sy’n codi yw sut mae dewis pwy sydd yn cael pa frechlyn? Os oes dewis rhwng dau frechlyn – gydag un yn well na’r llall – does neb yn mynd i ffafrio’r brechlyn gwaethaf.

Dywedodd Andrew Goodall y byddai swyddogion yn seilio eu penderfyniad – ynghylch rhannu’r brechlynnau rhwng aelodau’r cyhoedd – ar sail “bregusrwydd”.

Amserlen frechu

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai modd dechrau brechu’r cyhoedd cyn Nadolig, ond y byddai hynny’n dibynnu ar y brechiadau’n derbyn sêl bendith rheoleiddwyr.

Ategodd ei fod yn disgwyl i’r cyfan “gymryd yn hirach nag y mae pobol yn ei ddisgwyl” ac y byddai’r rhaglen brechu yn “parhau yn bell i mewn i’r gwanwyn”.

Mae’r sefyllfa “yn newid yn gyflym”, meddai, a dywedodd mai “dyma’r weithred logistaidd mwyaf sylweddol rydym erioed wedi bod ynghlwm â hi gydag unrhyw raglen brechu”.

Mae’n ffyddiog bod yr isadeiledd yn ei le, ond mae’n cydnabod y bydd y cyfan yn “gofyn llawer” (enhanced ask”) o’r gweithlu.

18 o ysbytai dan bwysau mawr

Yn y gynhadledd, eglurodd Dr Andrew Goodall hefyd fod 18 o ysbytai yng Nghymru bellach dan bwysau mawr a bod nifer y bobol sydd yn derbyn triniaeth Covid-19 mewn ysbytai yn parhau i gynyddu.

Mae 8% yn fwy o bobol mewn ysbytai na’r wythnos ddiwethaf – cyfanswm o 1,654 o gleifion, sy’n gyfwerth â chael 50 ward yn llawn cleifion â’r coronafeirws.

Cofnodwyd 640 yn ragor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 68,449.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 41 yn rhagor o farwolaethau, gan ddod â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 2,284.

Fodd bynnag ychwanegodd Dr Goodall fod ‘cyfradd R’ y feirws wedi gostwng o ganlyniad i’r clo dros dro i rhwng 0.9 ac 1.2 a’i fod yn ffyddiog y bydd yn parhau i ostwng.