Mae gwyddonwyr yng ngwledydd Prydain wedi dweud eu bod yn “gyffrous iawn” am y newyddion bod brechlyn coronafeirws yn yr Unol Daleithiau yn gallu atal 94.5% o bobl rhag cael eu heintio gyda Covid-19.

Yn ôl data cychwynnol gan gwmni Moderna yn yr Unol Daleithiau mae eu brechlyn yn effeithiol iawn wrth geisio atal pobl rhag cael Covid-19 ac mae hefyd yn gweithio ar draws grwpiau oedran, gan gynnwys yr henoed.

Mae llefarydd ar ran y Llywodraeth wedi dweud eu bod mewn “trafodaethau” i brynu’r brechlyn.

Ar hyn o bryd, nid yw brechlyn Moderna ymhlith y triniaethau posib mae’r Llywodraeth wedi eu harchebu.

Mae’r brechlyn gweithio mewn ffordd debyg i frechlyn cwmni Pfizer ac yn ôl gwyddonwyr mae hyn yn newydd da ar gyfer brechlynnau eraill Covid-19. Mae disgwyl i frechlyn Prifysgol Rhydychen a chwmni fferyllol AstraZeneca gyhoeddi adroddiad am eu brechlyn nhw yn y dyddiau nesaf.

Bwriad Moderna yw gwneud cais i’r Weinyddiaeth Fwyd a Chyffuriau yn yr Unol Daleithiau (FDA) yn fuan a bydd yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am effeithlonrwydd a diogelwch y brechlyn.

Mae cam olaf treialon clinigol y cwmni yn parhau ac yn cynnwys mwy na 30,000 o bobl yn yr UDA.

Daw’r cyhoeddiad wythnos ar ôl i Pfizer/BioNTech gyhoeddi astudiaeth sy’n awgrymu bod eu brechlyn yn fwy na 90% yn effeithiol.